Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i hyrwyddo mwy o natur agored gan awdurdodau cyhoeddus. Pwrpas y DRhG yw sicrhau bod pob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau bod mwy o wybodaeth amdanynt ar gael yn rhwydd. I'r perwyl hwn, mae'r DRhG yn darparu ar gyfer mynediad cyhoeddus i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus (ond nid gwybodaeth bersonol fel cofnodion meddygol).
Er mwyn i'ch cais gael ei drin yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG), rhaid i chi:
Does dim rhaid i chi:
Sylwch: Os ydych am ofyn am gopi o'ch cofnodion meddygol, peidiwch â defnyddio cyfeiriad e-bost Rhyddid Gwybodaeth os gwelwch yn dda . Gellir cyfeirio eich cais at CTT_Medrecordrequest@wales.nhs.uk, neu gallwch chi gysylltu â'r adran cofnodion meddygol trwy ffonio 01443 443443. Mae croeso i chi wneud hynny yn y Gymraeg ac ni fydd gwneud hynny yn arwain at unrhyw oedi.
Gall ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth gael eu hanfon drwy'r cyfeiriadau canlynol. Mae croeso mawr i chi gyflwyno cais yn y Gymraeg ac ni fydd hynny'n arwain at oedi:
Chwilio am arweiniad ar wneud cais Rhyddid Gwybodaeth? Gweler ein Cwestiynau Cyffredin defnyddiol isod.
Mae'r log datgeliadau yn rhoi manylion am geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniwyd ac yr ymatebwyd iddynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae pob ymateb a roddwyd yn cael ei gyhoeddi yn ddienw.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus yn ein canllawiau.
Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn am unrhyw wybodaeth a gedwir gan y Bwrdd Iechyd.
Os yw'r wybodaeth yn amgylcheddol, yna bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR). Nid oes angen i chi wybod a yw'r wybodaeth rydych chi ei eisiau yn dod o dan yr EIR neu'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu pa broses y mae angen iddo ei dilyn.
Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth a ddewiswch, ar unrhyw adeg, ond efallai na fyddwch bob amser yn llwyddo i'w chael. Cyn i chi wneud cais, gallai fod o gymorth ystyried y cwestiynau canlynol:
Dylai eich cais nodi'n glir y wybodaeth yr ydych ei heisiau.
Dylem ymateb ichi o fewn 20 diwrnod gwaith. Efallai y byddwn yn:
Os ydych chi'n anhapus â sut yr ymdriniwyd â'ch cais, dylech gwyno i'r Bwrdd Iechyd yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn fodlon ar ôl hyn o hyd, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gellir trin cais am wybodaeth amgylcheddol yn wahanol i geisiadau eraill. Fodd bynnag, dylem ddal i ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith a rhoi rhesymau os gwrthodwn eich cais.
Os oes angen rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ryddid gwybodaeth, cysylltwch â:
Adran Gwasanaethau Corfforaethol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Tŷ Ynysmeurig
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN
Ffôn: 01443 744800
E-bost: CTM.FreedomOfInformation@wales.nhs.uk