Yn gynharach eleni, cyflwynodd Ysbyty Cwm Cynon brosiect peilot therapi cerddoriaeth i helpu i wella lles cleifion tra eu bod yn derbyn gofal ar wardiau yn yr ysbyty.
Gweithiodd BIPCTM yn agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRCT) i lansio a chynnal y peilot hwn. Cafodd cerddorion eu darparu gan Wasanaeth Celfyddydau CBSRhCT a ymwelodd â’r ysbyty dros gyfnod o chwe wythnos rhwng Chwefror a Mawrth 2025, gan chwarae ar wardiau’r ysbyty ac ym mhrif fynedfa’r safle.
Roedd y cerddorion i gyd yn artistiaid lleol o ardal Rhondda Cynon Taf, ac yn eu plith roedd Andy Mulligan (Pop), Eleri Angharad (Gwerin Cymru), Max Hoare (Pop, Sioeau Cerdd), Bethan Nia (Gwerin Glasurol / Telyn). Roedd clasuron Cymraeg fel Calon Lan hefyd yn cael eu chwarae gan y delynores Bethan Nia, a gafodd dderbyniad da iawn.
Dywedodd Leanne Davies Pennaeth Nyrsio, Gofal Sylfaenol a Chymunedau: “Mae’r effaith gadarnhaol a gafodd y therapi cerddoriaeth ar ein cleifion yn amlwg yn weledol – gallwch weld eu hwyliau’n codi ac maen nhw’n ymlacio’n syth bin. Mae therapi cerddoriaeth yn galluogi ein cleifion i ryngweithio â'r cerddorion. Mae canu a dawnsio gyda'r gerddoriaeth yn gwella eu sgiliau cyfathrebu a niwronau motor.
“Mae gweld ymateb cleifion i’r therapi cerddoriaeth wedi cael effaith gadarnhaol ar les y staff hefyd. Mae'r cleifion yn gallu rhannu atgofion rhai caneuon a dweud beth mae'r caneuon yn ei olygu iddyn nhw - mae hyn yn arwain at sgyrsiau y tu allan i'r sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd. Mae staff yn treulio oriau hir yn y gwaith ac mae clywed cerddoriaeth ddyrchafol yn rhoi’r hwb sydd ei angen arnyn nhw i ddod drwy’r dydd, yn ogystal â’r cyfle i fyfyrio ar yr atgofion y gall y gerddoriaeth eu codi.”
Dywedodd Jesse Morgan, Rheolwr Celfyddydau ac Ymgysylltu Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Roedd y treial hwn yn gyfle gwych i ddod â cherddorion lleol a chleifion lleol ynghyd mewn profiad a oedd yn galonogol, yn emosiynol ac yn meithrin cymuned. Mae gan gerddoriaeth fyw y pŵer i drawsnewid a chodi calon a gwelsom y ddau ar waith wrth i gerddorion o ystod o genres yn perfformio mewn baeau ac ar wardiau yn agos ac mewn sgwrs agos â chleifion. Dydw i ddim yn adnabod unrhyw un a welodd y digwyddiadau hyn a fethodd â chael eu heffeithio ganddyn nhw. Fel awdurdod lleol, mae’r rhaglen hon yn cynrychioli’r gorau oll o beth y gobeithiwn y byddai’r cynnig diwylliannol yn ei gael, ni allem fod yn fwy cyffrous wrth weld y posibilrwydd y bydd yn parhau.”
Dywedodd Anthony Hughes, Dirprwy Reolwr Ardal, Gofal Sylfaenol a Chymunedau: “Mae ein prosiect therapi cerddoriaeth peilot wedi cael effaith sylweddol ar les cleifion ac rydym wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol gan gleifion a staff. Mae'r gerddoriaeth wedi dod â llawer o wên i wynebau cleifion a staff hefyd, gyda chleifion yn ganu gyda’i gilydd ac yn symud gyda chefnogaeth gan y staff Nyrsio. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda staff CBSRCT a'r artistiaid. Daeth y cerddorion â hwb o egni i'r ward ac roedd y staff nyrsio yn gadarnhaol iawn wrth gefnogi'r prosiect hwn. Hoffwn ddiolch i Grŵp Llywio Dementia BIPCTM am gefnogi’r prosiect peilot hwn, a’r holl staff, cleifion a theuluoedd a helpodd i redeg a chefnogi ein sesiynau cerddoriaeth.”
Dywedodd Jan, claf ar Ward 2 yn Ysbyty Cwm Cynon: “Roedd y cerddorion heddiw yn wych ac fe wnaethon nhw fywiogi’r ward yn fawr. Mwynheais yn fawr. Fe’m gwnaeth yn llawer hapusach a byddwn wrth fy modd eu gweld yn dychwelyd.”
Dywedodd Jenny Oliver, Pennaeth Profiad y Bobl: “Mae’r peilot therapi cerddoriaeth wedi cael effaith hynod gadarnhaol ac mae’n enghraifft wych arall o staff CTM yn nodi cyfleoedd ac yn dyfeisio ffyrdd arloesol o gefnogi ein cleifion. Hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’r holl gerddorion sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn. Hoffem hefyd ddiolch a llongyfarch Anthony Hughes a’r tîm cyfan yn Ysbyty Cwm Cynon am wneud i hyn ddigwydd, ac am fynd gam ymhellach a thu hwnt i gleifion yn CTM.”
28/04/2025