Ym mis Ionawr, cyflwynodd Ysbyty Cwm Cynon wasanaeth trin gwallt mewnol ar gyfer cleifion sy'n aros ar Wardiau 1, 2, 3, 4, 6 a 7.
Dechreuodd y triniwr gwallt lleol, Ralph Jones, gynnig apwyntiadau trin gwallt wedi'u trefnu ymlaen llaw i gleifion ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn boblogaidd iawn.
Dywedodd Ralph Jones: “Mae wedi bod yn fraint rhoi hwb i les pobl. Beth sy’n fy syfrdanu bob tro yw pan fyddan nhw’n gweld eu hunain yn y drych ar ôl torri eu gwallt, mae rhywbeth yn dod yn fyw ynddyn nhw eto, mae’n emosiynol iawn, a dweud y lleiaf”
Dywedodd Anthony Hughes, Dirprwy Reolwr Ardal, Ysbyty Cwm Cynon: “Mae Ralph yn ymweld â’r ysbyty ddau ddiwrnod yr wythnos, gan ddarparu apwyntiadau gwallt wedi’u trefnu ymlaen llaw. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae wedi trefnu dros 20 o apwyntiadau gyda chleifion trwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth 2025. Hoffem anfon diolch enfawr i Ralph am ddod i mewn a chefnogi’r ysbyty a’n cleifion.”
Dywedodd Jenny Oliver, Pennaeth Profiad y Bobl: “Hoffem ddiolch i Ralph, Anthony a’r tîm cyfan yn Ysbyty Cwm Cynon am weithio mor galed i ddod â’r gwasanaeth hwn ar y wardiau. Mae hon yn enghraifft wych o staff CTM yn nodi cyfleoedd a ffyrdd arloesol o wella profiad ein cleifion. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran.”
Rhaid i unrhyw gleifion sydd am dorri gwallt fod â'r galluedd i ofyn am dorri gwallt, neu riant/gofalwr sy'n rhoi cydsyniad i'r toriad gwallt ddigwydd. Mae aelod o staff yn cerdded o gwmpas pob ward bob dydd Llun i dderbyn ceisiadau archebu gyda chleifion, gofalwyr ac aelodau o'r teulu.
28/04/2025