Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch newydd wedi'i lansio i godi safonau a gwella gofal dementia yng Nghwm Taf Morgannwg

Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio heddiw i godi safonau a gwella gofal dementia ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Yn dod o dan y teitl ‘Cyfoethogi bywydau drwy godi safonau a gwella gofal dementia’, ei nod yw gwneud gofal a chymorth yn well i’r 88,317 o bobl sy’n byw gyda dementia yn y rhanbarth.

Dan arweiniad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, bydd yr ymgyrch yn cefnogi darpariaeth leol o’r ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru’, a gafodd ei greu gan Gwelliant Cymru mewn cydweithrediad â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’n cynnwys set o 20 safon sydd â’r nod o annog gwelliannau mewn gofal a chymorth dementia ledled Cymru.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn dod â’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol ynghyd â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau eu bod yn gallu dylanwadu ar y ffordd mae gofal a chymorth dementia yn edrych yn y rhanbarth. 

Dros y misoedd nesaf, bydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn rhannu rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r safonau, ac yn cynnal digwyddiadau er mwyn dangos i bobl sut allent lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Gyda naw o’r safonau’n gysylltiedig â’r gwasanaethau asesiad cof, bydd y sylw ar edrych ar sut gellir gwella gofal a chymorth i bobl sy’n ceisio diagnosis.

Dywedodd Lowri Morgan, Rheolwr Rhaglen Dementia, ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg: “Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb cyfrannol am sicrhau bod gan bobl a effeithir gan ddementia brofiad cadarnhaol o dderbyn gofal a chymorth yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

“Bydd pob unigolyn yn profi dementia yn ei ffordd ei hun a dyna pam ei bod mor bwysig i ddod â phobl ynghyd er mwyn rhannu eu profiadau a llunio’r ffordd mae gofal a chymorth yn edrych.

“P’un a ydych yn byw gyda dementia, yn ofalwr, yn aelod o’r teulu, yn weithiwr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol neu’n aelod o’r gymuned sy’n dod i gysylltiad â phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, hoffem glywed gennych. Gall eich profiadau ein helpu ni i ddeall pa newidiadau sydd angen cael eu gwneud i sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal a’r cymorth gorau posib.

“Byddem yn annog pobl o bob cwr o’r rhanbarth i gefnogi a chymryd rhan yn yr ymgyrch hon. Pan mae pob un ohonom yn dod ynghyd, rydym yn gwella pethau i bawb.

Mae Ceri Higgins o Bontypridd a dreuliodd 12 mlynedd yn gofalu am ei thad a oedd â dementia, wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu’r ymgyrch hon. Dywedodd: “Mae mor bwysig cymryd rhan.  Os ydy gwasanaeth yn ymwneud â bywyd rhywun, yna dylent gael eu cynnwys yn llwyr yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

Pan ddechreuais i ofalu am Dad, ymunais â sawl panel a grŵp er mwyn i mi allu rhannu fy mhrofiadau, a bu’n hynod werthfawr i mi a’r bobl rwy’n siarad â nhw.

“Ar adegau, pan fo gennych lawer o wahanol bobl o wahanol gefndiroedd yn yr ystafell, gall gael ymdeimlad o “nhw a ni”. A dweud y gwir, mae labeli’n amherthnasol – mae pob un ohonom yn paratoi i gefnogi rhywun. Drwy gynnwys pobl sydd â phrofiadau personol mewn sgyrsiau a phenderfyniadau, gallwn wneud pethau’n well gyda’n gilydd.”

Dywedodd Michaela Morris, Arweinydd Rhaglen Dementia ac Iechyd Meddwl yn Gwelliant Cymru: “Cyfrannodd dros 1,800 o bobl at ddatblygu Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru, gan amrywio o’r rhai sy’n byw â dementia i sefydliadau yn y sector gwirfoddol ac ymarferwyr ar draws Cymru a’r DU.

“Rydym yn falch bod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn rhoi pobl sydd â phrofiad uniongyrchol, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, a’r gymuned ehangach wrth galon y ddarpariaeth safonau’n lleol, gan sicrhau bod y gofal a’r cymorth dementia gorau posib yn cael eu llunio yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.”

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgyrch, ewch i https://www.ctmregionalpartnershipboard.co.uk/cy/ymgyrch-dementia/

 

16/03/2023