Ddydd Sul Gorffennaf 3, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal ymarfer adfer ar un o'r craeniau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr.
Mae hwn yn ymarfer arferol i sicrhau diogelwch gweithredwyr craen sy'n gweithio ar y safle. Bydd yr ymarfer yn cael ei gynnal ar un o’r craeniau sy’n agos at fynedfa’r ysbyty, ond rydym wedi cael ein sicrhau na fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar fynediad i’r adeilad.
Ar hyn o bryd mae aelodau'r tîm tân ac achub wedi'u hamserlennu i fod ar y safle gyda cherbydau ac offer brys o 11am tan 2pm, fodd bynnag gall hyn newid neu gallai redeg dros yr amser a nodir. Peidiwch â dychryn os gwelwch gerbydau tân ac achub ar y safle yn ystod y cyfnod hwn.