Mae ein timau brechu COVID-19 wedi bod yn gweithio ar garlam i weld sut y byddwn yn ehangu ein rhaglen ac, yn benodol, sut y byddwn yn gallu darparu mwy o ddosau atgyfnerthu.
Byddwn yn gallu darparu mwy o wybodaeth i chi yfory, yn dilyn datganiad Prif Weinidog Cymru am 7pm heno. (13.12.21)
Roeddem am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich amynedd. Byddwn yn parhau i'ch diweddaru chi pan fydd mwy o wybodaeth newydd gyda ni i'w rhannu gyda chi.
Rydym yn parhau i ofyn i chi gadw eich apwyntiad, os oes apwyntiad gyda chi ym mis Rhagfyr sydd wedi ei drefnu o hyd. Oherwydd pa mor gyflym rydym wrthi’n cyflwyno'r cam newydd hwn o'r rhaglen frechu, ni allwn aildrefnu apwyntiadau i gael y dos atgyfnerthu am yr ychydig ddyddiau nesaf.
Gofynnwn hefyd i chi beidio â chysylltu â ni os nad oes apwyntiad gyda chi ar hyn o bryd - byddwn mewn cysylltiad â chi yn fuan iawn.
Heddiw, roedd ein llinellau ffôn a'n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol yn hynod o brysur gyda phobl yn ceisio trefnu apwyntiad. Roedd hyn yn golygu bod y bobl a oedd wir angen cysylltu â ni yn gorfod brwydro i wneud hynny.
Rydym ni'n gwybod ei bod hi'n amser pryderus, ond fel rydyn ni wedi dweud ers y cychwyn, ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl. Byddwch yn cael apwyntiad i gael y dos atgyfnerthu yn ystod yr wythnosau nesaf os ydych chi'n gymwys i gael un.
Diolch fel bob amser am eich dealltwriaeth. Byddwn yn eich diweddaru chi eto yfory. (14.12.21)