Agorodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, y Ganolfan Gofal ar yr un diwrnod newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddydd Iau 18 Gorffennaf. Ymunodd â’r staff mewn seremoni agoriadol i ddathlu cwblhau a throsglwyddo’r adrannau Cleifion Allanol, Therapïau, Endosgopi a’r Genau a’r Wyneb ac Orthodonteg, sy’n rhan o’r Ganolfan Gofal ar yr un diwrnod.
Mae’r adnewyddiadau hyn yn ffurfio Cam Dau o waith uwchraddio gwerth £280 miliwn i’r Ysbyty, a ddechreuodd yn ôl yn 2017.
Eisoes wedi'i gwblhau, roedd Cam Un yn cynnwys buddsoddiad o £44 miliwn mewn seilwaith newydd ar gyfer yr Ysbyty, gan greu cegin, bwyty a chyfleuster fferyllfa newydd.
Mae Cam Dau sydd newydd agor, sy'n cynnwys y Ganolfan Gofal ar yr un diwrnod newydd, yn brosiect gwerth £220m i adnewyddu'r rhan fwyaf o loriau gwaelod a llawr cyntaf y prif floc ysbyty, ystafelloedd peiriannau newydd ac uwchraddio'r maes parcio ymhellach.
Mae uwchraddio’r adran Endosgopi yn cynnwys cynnydd o ddwy i dair ystafell lawdriniaeth newydd, derbynfa endosgopi bwrpasol newydd sbon, a phum ystafell paratoi en-suite i gleifion.
Yn yr adran Genau a'r Wyneb ac Orthodontig, mae'r uwchraddiadau'n cynnwys man aros cynllun agored newydd sbon, ac uned orthodontig, adferol a genau a'r wyneb wedi'i hadeiladu'n arbennig gydag wyth syrjeri eang a chyfoes unigol ac ystafell ymgynghori ar wahân.
Mewn Therapïau, mae cyfleusterau pwll hydrotherapi newydd sbon wedi'u cynllunio i gefnogi mynediad i'r anabl yn llawn, ystafelloedd clinig unigol ar gyfer therapi chwistrellu, asesu iechyd y pelfis ac ardal giwbiclau ar gyfer triniaeth gyhyrol ac ysgerbydol a champfa ffisiotherapi modern mawr.
Yn ogystal ag uwchraddio adran y Ganolfan Gofal ar yr un diwrnod, bydd Cam Dau o'r gwaith adnewyddu hefyd yn cynnwys cyfres newydd lawn o Theatrau, Uned Llawdriniaeth Dydd, diweddariadau mawr i'r adrannau Radioleg a Phatholeg, ac adeiladu'r Uned Gofal Dwys newydd.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg “Mae uwchraddio cyfleusterau yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn flaenoriaeth fawr i’n bwrdd iechyd, ac rydw i’n falch iawn ein bod bellach yn gallu agor ein Canolfan Gofal ar yr un diwrnod o’r radd flaenaf ac yn bwysicaf oll, i'n cleifion ddechrau elwa o'r cyfleusterau hyn.
“Hoffwn ddiolch i bob un o’r timau sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiect ers 2017, ac i’n defnyddwyr gwasanaeth yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, am eu hamynedd a’u hyblygrwydd yn ystod yr uwchraddio hyn. Wrth i ni symud i gam nesaf y datblygiad pwysig hwn, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r gofal iechyd gorau posibl i’n cymunedau yng ngogledd Cwm Taf Morgannwg.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething: “Roeddwn yn falch iawn o weld yr ystod drawiadol o wasanaethau gofal iechyd arbenigol sydd bellach ar gael i gleifion allanol, a fydd yn golygu y bydd pobl leol yn gallu derbyn mwy o driniaethau neu ddiagnosis yn lleol, gan ddefnyddio’r offer clinigol diweddaraf mewn cyfleuster modern rhagorol.
“Roedd hefyd yn dda clywed am sut mae’r datblygiad yn gweithio gyda phobl ifanc leol trwy bartneriaethau ag ysgolion, darparu prentisiaethau a helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer gwaith a chael cyflogaeth.
“Llongyfarchiadau i’r tîm Tywysog Siarl a’r bwrdd iechyd ar y buddsoddiad pwysig hwn yng ngwasanaethau’r GIG i bobl ym Merthyr Tudful a’r ardal leol.”
18/07/2024