Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i Raglen Frechu Covid-19.
Mae'r datganiad diweddaraf i'w weld yma.
Oherwydd y lefel uchel o imiwnedd cryf y mae’r boblogaeth wedi’i meithrin dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac wrth i ni symud o ymateb i argyfwng y pandemig tuag at ddull ‘busnes fel arfer’, mwy cynaliadwy, bydd dau newid mawr yn dod i rym:
Alla’ i gael dos atgyfnerthu’r hydref o hyd?
Gallwch! Mae dosau atgyfnerthu dal ar gael, os ydych chi wedi cael eich cwrs sylfaenol (dosau 1 a 2), tan 31 Mawrth.
Beth ddylwn i ei wneud os dydw i ddim wedi cael brechlyn Covid-19 eto?
Os ydych chi rhwng 5 a 49 oed, mae amser o hyd i chi gael eich dosau cychwynnol. Gallwch chi gerdded i mewn i unrhyw un o'n chwe Chanolfan Frechu Gymunedol (a restrir yn y ddolen isod) neu ffonio ein llinell gymorth brechlyn ar 01685 726464 i ddechrau eich cwrs o frechlynnau.
Pa mor hir sydd gennyf i gael fy mrechu?
Os dydych chi ddim wedi dechrau neu gwblhau cwrs sylfaenol o frechiadau Covid-19 eto (y dos cyntaf, yr ail ddos neu'r ddau ddos), bydd gennych chi tan 30 Mehefin 2023 i gwblhau'r cwrs hwnnw. O’r dyddiad hwn, fyddwch chi ddim yn gymwys i gael dos cychwynnol o frechlyn Covid-19 o dan y newidiadau newydd hyn.
Bydd pobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu rhoi mewn grŵp risg glinigol, a doedden nhw ddim wedi cael eu cwrs sylfaenol a/neu eu dos atgyfnerthu, yn dal i allu cael eu brechu ar gyngor clinigydd.
Dos cyntaf ac ail ddos
Dyma ychydig o wybodaeth i'ch helpu:
A yw hyn yn golygu diwedd brechiadau Covid-19?
Dydy’r newidiadau a gyhoeddwyd ddim yn golygu y bydd ein rhaglen frechu Covid-19 yn CTM yn dod i ben. Rydyn ni’n disgwyl i frechiadau Covid-19 barhau i fod yn rhan bwysig o raglen frechu ein bwrdd iechyd.
Ble alla’ i gael fy mrechiad/brechiadau Covid-19?
Mae gennym ni chwe Chanolfan Frechu Gymunedol ar draws CTM sydd ar agor rhwng 9am a 5pm – gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yma.
Ar unrhyw un o'r chwe safle hyn, gallwch chi gael eich dos cyntaf, eich ail ddos, neu’ch dos atgyfnerthu.
Ewch i wefan CTM a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen imiwneiddio Covid-19 a rhaglenni imiwneiddio ehangach.
06/03/2023