Yn ystod Wythnos yr Hinsawdd Cymru mae’n bleser gennym rannu’r manylion diweddaraf am Fferm Solar Coedelái gyda chi.
Mae Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBRhCT) wedi arwyddo Cytundeb Prynu Pŵer ar gyfer cyflenwi egni adnewyddadwy o Fferm Solar Coedelái yn uniongyrchol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan ddod â’r cynllun gam yn nes at ddwyn ffrwyth. Yng Nghoedelái, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn bwriadu adeiladu fferm solar 6MW (Megawat) ar hen safle pwll glo tua 3.5km o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gydag adran bwrpasol 1MW yn darparu pŵer solar di-garbon i’r ysbyty drwy gysylltiad gwifren breifat. Rhagwelir y bydd y cynllun yn bodloni'r galw llawn ar y safle ar ddiwrnodau brig yr haf, gan ddarparu tua 15% o ofynion trydan blynyddol yr ysbyty. Mae hyn yn ddigon o ynni i bweru 370 o gartrefi nodweddiadol am flwyddyn, bydd yn arbed tua 240 tunnell o CO2 y flwyddyn, a bydd y costau trydan yn sylweddol is na thrydan a gyflenwir gan y grid. Nod y cynllun fferm solar yw cwblhau'r cysylltiad â'r ysbyty ddiwedd haf 2024 wrth i CBSRhCT symud ymlaen bellach drwy gyfnodau cynllunio, dylunio ac adeiladu'r prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae’n wych gweld y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cymryd camau cadarnhaol tuag at ddatblygu ein fferm solar gyntaf erioed ar y tir cyn Wythnos yr Hinsawdd Cymru 2023. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030 ac mae gweithio mewn partneriaeth i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn rhan allweddol o hynny.
“Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig tynnu sylw at sut y gall y prosiect hwn fod yn enghraifft o sut y gall egni solar hefyd gael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth a ffermio. Mae hyn, ynghyd â gostyngiadau sylweddol mewn costau ynni ac arbed carbon, yn pwysleisio’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyfrannu at Darged Sector Cyhoeddus Sero Net Llywodraeth Cymru, gan ddatgarboneiddio’r Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chreu Cymru wyrddach.”
06/12/2023