Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd 2025 (18 - 24 Tachwedd)

Yr wythnos hon mae BIPCTM yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd (WAAW). Dan arweiniad Sefydliad Iechyd y Byd, mae WAAW yn ymgyrch fyd-eang i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR). 

Beth yw gwrthfiotigau?  

Defnyddir gwrthfiotigau i drin amrywiaeth o heintiau a sy’n cael eu achosi gan facteria.  

Fodd bynnag, maen nhw’n dod yn llai effeithiol oherwydd ein bod yn eu gor-ddefnyddio ac, mewn rhai achosion, ddim yn eu defnyddio'n iawn. Bob tro rydyn ni'n eu cymryd, rydyn ni'n rhoi cyfle i'r bacteria ymladd yn ôl. 

Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n ein hwynebu. Mae'n digwydd pan fydd bacteria'n dod o hyd i ffordd o drechu'r cyffuriau a gynlluniwyd i'w lladd.  

Yn fyd-eang, mae bron i 5 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd heintiau sy'n gysylltiedig â ymwrthedd i wrthfiotigau. Oni bai ein bod yn gweithredu nawr, ni fydd triniaethau arferol fel cemotherapi, trawsblaniadau organau ac ailosodiadau cymalau yn bosibl mwyach oherwydd bydd y gwrthfiotigau sydd eu hangen i'w gwneud yn ddiogel wedi rhoi'r gorau i weithio.   

Sut allwn ni gadw gwrthfiotigau'n gweithio?  

  • Dim ond pan ddywedir wrthych gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gymryd gwrthfiotigau a chymerwch nhw bob amser yn union fel y'u presgripsiynu 

  • Peidiwch byth â rhannu gwrthfiotigau gyda theulu, ffrindiau na anifeiliaid anwes 

  • Dychwelwch wrthfiotigau sydd ddim wedi cael defnyddio i'ch fferyllfa leol bob amser – peidiwch â'u taflu.  

Gallwch ddysgu mwy am ymwrthedd gwrthficrobaidd yma: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/ymwrthedd-a-heintiau-gwrthfiotig/stiwardiaeth-gwrthficrobaidd1/  

 

 

18/11/2025