Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Rhoi Organau 2025

Yr wythnos hon (22 - 28 Medi), mae CTM yn nodi Wythnos Rhoi Organau 2025.

Yn ystod Wythnos Rhoi Organau (22 - 28 Medi) mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn galw ar bobl i gofrestru eu penderfyniad i roi organau a siarad â'u teuluoedd am roi organau gan fod tua 8000 o bobl yn aros yn weithredol am drawsblaniad ledled y DU.

Mae 1,570,8543 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru eu penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG - mae hyn yn cyfateb i 50% o boblogaeth Cymru.

Yn 2022, roedd gan ranbarth BIP CTM gyfradd gofrestru o 31%. Yn 2025, mae gan ranbarth BIP CTM gyfradd gofrestru o 47% bellach. Rydym am annog hyd yn oed mwy o bobl ar draws BIP CTM i ddysgu am roi organau, ac i gofrestru eu penderfyniad.

Beth yw Rhoi Organau?
Mae rhoi organnau yn helpu rhywun sydd angen trawsblaniad. Mae miloedd o fywydau yn y DU yn cael eu hachub neu eu trawsnewid bob blwyddyn gan drawsblaniadau organau.

Gallwch roi rhai organau tra byddwch yn fyw, ac mae hyn yn cael ei alw’n rhoi organau byw. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o roddion organau a meinwe yn dod gan bobl sydd wedi marw.

Gallwch ddarganfod mwy am Roi Organau trwy glicio yma.

Beth am y cyfreithiau sy'n ymwneud â Rhoi Organau?
Cydsyniad tybiedig yw’r ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru. 

Mae hyn yn golygu os nad ydych wedi cofrestru penderfyniad rhoi organau a meinwe (optio i mewn neu optio allan), ystyrir nad oes gennych unrhyw wrthwynebiad i ddod yn rhoddwr.

Ystyrir eich bod yn cytuno i ddod yn rhoddwr organau pan fyddwch yn marw, os:

  • Ydych dros 18 oed
  • Nad ydych wedi optio allan
  • Nad ydych mewn grŵp sydd wedi'i eithrio

Eich penderfyniad chi yw rhoi organau. Gallwch ddewis pa organau i'w rhoi neu optio allan o roi yn gyfan gwbl.

Gallwch ddarllen mwy am ddeddfwriaeth rhoi organau yma.

Sut mae eich teulu yn ymwneud â rhoi organau?
Yr wythnos hon rydym yn annog pobl i rannu eu penderfyniad ynghylch rhoi organau gyda'u teulu a'u ffrindiau.

Bydd eich teulu bob amser yn cael ei ymgynghori ynghylch a oeddech am fod yn rhoddwr organau ai peidio, ac ni fydd clinigwyr byth yn bwrw ymlaen â rhoi organau os oes gan eich teulu neu’ch anwyliaid unrhyw wrthwynebiad.

Os cewch y sgyrsiau hynny, bydd eich teulu’n gallu cefnogi eich penderfyniad os bydd nyrs arbenigol yn yr ysbyty yn cysylltu â nhw ynglŷn â rhoi organau.

Pan fydd teulu’n cael eu cysylltu, bydd 9 o bob 10 teulu’n cytuno i roi organau os ydyn nhw’n gwybod bod aelod o’u teulu ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau ac wedi siarad am eu penderfyniad.

Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau bellach wedi newid ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, bydd ymgynghori â aelodau'r teulu bob amser cyn i roi organau fynd rhagddo. Mae hwyrach bod cofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yr un mor bwysig ag erioed a sicrhau bod eich ffrindiau a’ch teulu’n gwybod beth rydych chi ei eisiau.

Gallwch ddarganfod sut mae eich teulu yn ymwneud â rhoi organau yma.

Sut allwch chi gofrestru eich penderfyniad?
Gallwch gofrestru eich penderfyniad i roi (optio i mewn) neu beidio â rhoi (optio allan) yma: https://www.organdonation.nhs.uk/cy/cofrestru-eich-penderfyniad/ 

Tîm Rhoi Organau CTM
Mae rhoi organau yn cael eu cefnogi gan ystod eang o staff a chydweithwyr ar draws y GIG, gan gynnwys timau o Damweiniau ac Achosion Brys, Uned Gofal Dwys, Theatrau, Radioleg, Ffisiotherapi, Fferylliaeth, Seicoleg, Haematoleg, Biocemeg, Banc Gwaed, Archwilwyr Meddygol, Crwner Ardal ac Arlwyo.

Mae Corinna McNeila Shaun Miller-Jones yn ddwyNyrs Arbenigol ar gyfer rhoi organau.

Gallwch ddysgu mwy am eu rolau yma.

Dywedodd Corinna McNeil: “Rydym am ddefnyddio Wythnos Rhoi Organau i annog hyd yn oed mwy o bobl i gofrestru eu penderfyniadau rhoi organau, ac i siarad â’u teuluoedd am eu dewisiadau. Mae rhoi organau wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr, a gallai eich rhodd roi dyfodol i rywun, neu achub bywyd.”

Gwaith celf newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn dathlu Rhoddwyr Organau ac yn Annog Sgyrsiau sy'n Achub Bywydau

Yr haf hwn, datgelodd CTM osodiad celf newydd pwerus yn Ysbyty'r Tywysog Siarl i gydnabod rhoddwyr organau a'u teuluoedd, ac i ysbrydoli mwy o bobl ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) i gofrestru eu penderfyniad i roi organau.

Yr wythnos hon, gwahoddodd CTM deuluoedd rhoddwyr organau o ranbarth BIP CTM i ymweld ag Ysbyty'r Tywysog Siarl i fynychu agoriad swyddogol y gosodiad celf ac i anrhydeddu a chofio eu hanwyliaid.

Dywedodd Shaun Miller-Jones (Nyrs Arbenigol ar gyfer Rhoi Organau): “Roedd digwyddiad yr wythnos hon yn ffordd wych o daflu goleuni ar yr effaith hynod gadarnhaol y gall rhoi organau ei chael, ac i anrhydeddu teuluoedd rhoddwyr organau, sydd wedi dewis troi trasiedïau personol yn eiliadau o obaith i eraill. Hoffem ddiolch i bawb am gefnogi’r digwyddiad hwn.”

Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusennau a Chynhyrchu Incwm: “Mae ein Helusen GIG CTM wrth ei bodd o fod wedi gallu cefnogi’r prosiect anhygoel hwn ac o’r diwedd allu ei rannu gyda theuluoedd lleol y mae eu hanwyliaid wedi helpu i roi rhodd bywyd. Mae'r gwaith celf creadigol ac ysbrydoledig hwn nid yn unig yn bywiogi'r ysbyty ac yn cydnabod ein rhoddwyr organau anhygoel ond bydd hefyd yn ysgogi rhai sgyrsiau sy'n newid bywydau ac yn achub bywydau am roi organau. Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud hynny’n bosibl.”

25/09/2025