Yr wythnos hon mae CTM yn dathlu Wythnos Profiad y Claf 2025, dathliad wythnos o hyd o'r holl ffyrdd y mae staff y GIG yn CTM a ledled Cymru yn mynd y tu hwnt i ddarparu'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth.
Rydym yn defnyddio'r wythnos hon i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith anhygoel sy'n digwydd yn Ysbyty Cwm Cynon. Dros y misoedd diwethaf, mae staff yr ysbyty wedi bod yn mynd y tu hwnt i gefnogi cleifion a gwella profiad y claf trwy gyflwyno gwasanaeth trin gwallt a rhaglen beilot therapi cerddoriaeth. Gallwch ddarllen y manylion llawn yma:
Ysbyty Cwm Cynon yn cefnogi cleifion gyda chynllun peilot therapi cerddoriaeth
Ysbyty Cwm Cynon yn cefnogi cleifion gyda gwasanaeth trin gwallt
Yn ystod yr wythnos, bydd timau Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS) CTM yn cynnal wal adborth cleifion yn Ysbyty Cwm Rhondda (cyntedd y brif fynedfa) ddydd Mawrth 29 a dydd Mercher 30 Ebrill, a chiwb adborth cleifion yn Ysbyty Cwm Cynon (cyntedd y brif fynedfa) ddydd Iau 1 Mai a dydd Gwener 2 Mai. Mae hwn yn gyfle i chi alw heibio a rhannu eich meddyliau a'ch adborth gyda'r timau.
Byddwn hefyd yn rhannu sylwadau ac adborth yr ydym wedi'u derbyn gan gleifion sy'n byw ar draws rhanbarth CTM ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod mwy.
Dywedodd Jenny Oliver, Pennaeth Profiad y Bobl: "Mae Wythnos Profiad y Claf yn wythnos i ddathlu ymrwymiad ac ymroddiad ein staff i roi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd popeth rydyn ni’n gwneud. Yr wythnos hon, byddwn yn rhannu sylwadau ac adborth yr ydym wedi'u derbyn yn ystod y flwyddyn fel atgoffa o'n hymrwymiad i wrando, dysgu a gwella, o beth rydych chi'n ei ddweud wrthym."
Rydym yn croesawu eich adborth i ddeall sut mae staff wedi eich cefnogi wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sy’n cael eu darparu gan CTM.
Oes aelod o staff, adran neu ward yr hoffech chi ddiolch iddo?
Ydych chi'n teimlo bod rhywun yn CTM wedi mynd y tu hwnt a'ch cefnogi trwy gyfnod anodd?
Os felly, gallwch lenwi un o'n cardiau 'Dweud eich Dweud' sydd ar gael ar draws y safleoedd neu fel arall gallwch anfon eich sylwadau at ein timau Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt i Gleifion (PALS) drwy'r manylion cyswllt isod:
PALS Pen-y-bont ar Ogwr: Ffôn: 01656 754194/ E-bost: CTM.BridgendPALS@wales.nhs.uk
PALS Merthyr: Ffôn: 01685 724468 / E-bost: CTM.MerthyrCynon.PALS@wales.nhs.uk
PALS Rhondda: Ffôn: 01443 443039/ E-bost: CTM.RhonddaTaffEly.PALS@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd rannu eich adborth gyda ni drwy glicio yma:
https://bipctm.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/
28/04/2025