Y 17 – 23 Tachwedd yw Wythnos Profi HIV yng Nghymru; ymgyrch wythnos o hyd gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o HIV, pwysigrwydd cael prawf a gwybod eich statws.
Gyda thriniaeth effeithiol, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw bywydau hir ac iach, ac mae triniaeth hefyd yn atal person â HIV rhag ei drosglwyddo i rywun arall. Ond nid yw llawer o bobl yn gwybod eu statws HIV, neu'n ofni darganfod.
Nid yw HIV yn gwahaniaethu, a gall unrhyw un gael y feirws. Cael prawf yw'r cam cyntaf i amddiffyn eich hun ac eraill.
Os oes gennych HIV, mae darganfod eich statws yn golygu y gallwch ddechrau triniaeth, aros yn iach ac osgoi trosglwyddo'r feirws i unrhyw un arall. Hefyd, po gynharaf y byddwch chi'n dechrau triniaeth, y lleiaf tebygol y byddwch chi'n mynd yn ddifrifol wael.
Ochr yn ochr â phrofion, mae defnyddio amddiffyniad yn ystod rhyw yn ffordd allweddol arall o atal HIV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Mae condomau yn hynod effeithiol ac ar gael am ddim trwy gydol CTM.
Gallwch eu cyrchu o'n Clinigau Iechyd Rhywiol Integredig, lleoliadau Cerdyn-C (clybiau ieuenctid, ysgolion, colegau, rhai practisau meddygon teulu), Fferyllfeydd Cymunedol a thrwy wefan Iechyd Rhywiol Cymru.
Yng Nghymru, gall unrhyw un archebu pecyn profi gartref cyfrinachol am ddim trwy dilyn y ddolen hon.
Bydd y prawf yn cyrraedd y post a bydd yn dod gyda chyfarwyddiadau sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r pecyn yng nghysur eich cartref eich hun. Ar ôl ei wneud, gellir postio'r pecyn yn ôl a bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon atoch, naill ai trwy neges destun neu alwad ffôn.
Mae pecynnau profi hefyd ar gael o fferyllfeydd cymunedol lleol a lleoliadau cymunedol eraill ledled Cymru.
Mae eich clinig iechyd rhywiol lleol hefyd yn gallu darparu profion HIV, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
17/11/2025