Bydd BIPCTM yn dathlu Wythnos Genedlaethol Profiad Gwaith rhwng 14 a 18 Ebrill.
Bydd ein tîm Dysgu a Datblygu yn cynnal cyfres o sesiynau ar-lein rhad ac am ddim i bobl ifanc 15-18 oed, i roi cipolwg iddyn nhw ar rolau gofal iechyd a llwybrau gyrfa a dysgu am gyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr.
Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i chi:
Cael mewnwelediadau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant
Dysgu am brentisiaethau a llwybrau gyrfa o fewn CTM
Ennill profiad ymarferol a chyngor arbenigol
Archwilio cyfleoedd profiad gwaith yn CTM
Gofyn cwestiynau i'r tîm
Gallwch ddod o hyd i fanylion y sesiynau hyn isod:
Sesiynau Wythnos Profiad Gwaith Cenedlaethol CTM 2025:
Dydd Llun 14 Ebrill 2025
10:30am - 11:30am
MWOBS (Cynllun Arsylwi Gwaith Meddygol) Rydw i Eisiau Gweithio mewn Meddygaeth – Nicola Mathews, Rheolwr Addysg Feddygol
1:00pm - 2:00pm
Rydw i Eisiau Bod yn Fydwraig – Bydwraig, Rachael Phillips
Dydd Mawrth 15 Ebrill 2025
10:45am – 11:45am
Rydw i Eisiau Bod yn Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) – Craig Jones, Rheolwr Datblygu HCSW, Lynne Estebanez, Hwylusydd Addysg a Datblygiad HCSW Rhyngbroffesiynol
Dydd Mercher 16 Ebrill 2025
9.30am – 10.30am
Rydw i Eisiau Gweithio mewn Fferylliaeth - Jane Hardwidge, Prif Fferyllydd
09:45am – 10:45am
Rydw i Eisiau Bod yn Nyrs - Addysg Nyrsio, Pavithra Aluru Pandurangaiah
11:00am – 12:00pm
Prentisiaethau yn CTM – Cydlynydd Prentisiaethau, Kirsty Griffiths
1:00pm – 2:00pm
Cyfleoedd Profiad Gwaith Cyffredinol yn CTM – Helen Lloyd, Cydlynydd Llwybrau ac Ehangu Mynediad
Dydd Iau 17 Ebrill 2025
10am – 11am
Rydw i Eisiau Bod yn Ddeintydd – Bethan Aur Jones, Uwch Ddeintydd, Bethan Harris, Swyddog Deintyddol
1:00pm - 2:00pm
Profiad Gwaith yn CTM – Helen Lloyd, Cydlynydd Llwybrau ac Ehangu Mynediad
Dywedodd Darcey Lewis, cyfranogwr mewn Diwrnod Profiad Gwaith Deintyddol ym Mhorth:
“Roedd y profiad gwaith a ddarparwyd gan Academi Prentisiaethau CTM yn agoriad llygad dros ben. Dysgais i gymaint am beth sydd ei angen i fod yn ddeintydd a'r math o effaith y gallwch chi ei chael ar fywydau pobl. Yn bendant fe wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn y llwybr gyrfa hwn, ac fe helpodd y profiad gwaith fy nghais UCAS, ac o ganlyniad mae gen i ddau gynnig i astudio Deintyddiaeth. Rydw i wir eisiau diolch i’r deintyddion am gymryd amser i’n cefnogi a dangos i ni’r technegau rydyn ni wedi darllen amdanyn nhw erioed. Diolch CTM”.
Mae lleoedd ar gyfer y sesiynau hyn yn gyfyngedig felly cofrestrwch heddiw a chymerwch eich cam cyntaf tuag at ddyfodol cyffrous.
Gallwch ddarganfod mwy a chofrestru trwy e-bostio: CTM.WorkExperience@wales.nhs.uk