Yr wythnos hon mae BIPCTM yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd 2025, digwyddiad blynyddol ledled y DU sy'n ymroddedig i hyrwyddo gyrfaoedd, addysg ac arweiniad.
Gyda dros 250 o lwybrau gyrfa, mae'r GIG yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i bobl â gwahanol sgiliau a chefndiroedd.
Yn CTM mae ein staff yn gweithio ar draws llawer o broffesiynau, pob un yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gwasanaethau gofal iechyd a gofal cleifion.
Yr wythnos hon rydym hefyd yn rhoi'r sylw ar rai o'n cydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd, gan ddathlu eu gwaith caled, eu hangerdd a'u hymroddiad yn eu gyrfaoedd priodol.
Gallwch ddysgu mwy am eu rôl a darganfod beth oedd yn eu hysbrydoli i ymuno â'r GIG, trwy glicio ar y blogiau isod:
Gallwch ddarganfod mwy am swyddi gyda CTM drwy glicio yma
03/03/2025