Yr wythnos hon mae BIPCTM yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd 2025, digwyddiad blynyddol ledled y DU sy'n ymroddedig i hyrwyddo gyrfaoedd, addysg ac arweiniad.
Mae teulu’r Lluoedd Arfog yn dod â sgiliau ac ymroddiad amhrisiadwy i’r GIG. O ddisgyblaeth ac arweinyddiaeth i gadernid a gwaith tîm
Drwy'r rhaglen Camu i Iechyd, gall aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog gysylltu â sefydliadau'r GIG i sefydlu cyfleoedd hyfforddi, lleoliadau gwaith clinigol a chyffredinol, diwrnodau mewnwelediad a derbyn cefnogaeth ymgeisio. Mae'r rhaglen yn darparu llwybr pwrpasol i yrfa yn y GIG.
Mae CTM yn falch o fod yn aelodau o Gyfamod y Lluoedd Arfog, gan gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydym yn dathlu eu gwasanaeth parhaus i'n cymunedau.
Mae Philip Thomas ac Iwan Wyn Griffiths yn ddau filwr wrth gefn y fyddin sy'n gweithio i CTM.
Gallwch ddarganfod sut mae nhw’n gwasanaethu eu cymunedau yma
Mae'r GIG yn cynnig ystod eang o rolau sy'n berffaith ar gyfer pobl sydd wedi trosglwyddo o Gymuned y Lluoedd Arfog i nifer o grwpiau staff y GIG, o rolau Nyrsio i Ddigidol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o astudiaethau achos yma
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddo o yrfa milwrol i'r GIG, dyma rai adnoddau defnyddiol:
Gallwch ddarganfod mwy am swyddi gyda CTM drwy glicio yma
03/03/2025