Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgwannwg yn nodi Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru eleni, ymgyrch flynyddol sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant ar broblemau diogelu. Y thema eleni yw 'Lle Diogel'.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb sylfaenol mewn gofal iechyd, sy'n hanfodol er mwyn amddiffyn unigolion bregus rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Mae'n cynnwys amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed a'u hatal rhag dod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin.
Nod BIP Cwm Taf Morgannwg yw creu amgylchedd diogel, cefnogol lle mae pob unigolyn yn derbyn y gofal a'r amddiffyniad o'r safon uchaf.
Eleni, mae ein Tîm Diogelu yn gweithio gyda phartneriaid i redeg a hyrwyddo rhaglen wythnos o weithgareddau ar gyfer staff ac aelodau o'n cymunedau, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc:
Sesiwn Galw Heibio Dechrau'n Deg
(Does dim angen cofrestru)
Dydd Mawrth 12 Tachwedd, 9:00yb – 10:00yb
Dechrau'n Deg Caerau, 25 Lon Y Parc, Caerau CF34 0YE
Darparu lle diogel mewn lleoliad cymunedol i aelodau'r gymuned alw heibio am gyngor/gwybodaeth am ddiogelu.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Ymwelydd Iechyd Lisa Casey Lisa.casey@wales.nhs.uk
Sesiwn Galw Heibio Dechrau'n Deg
(Does dim angen cofrestru)
Dydd Mercher 13 Tachwedd, 9:00yb – 10:00yb
Dechrau'n Deg Sarn, Heol Canola, Sarn, CF32 9UQ
Darparu lle diogel mewn lleoliad cymunedol i aelodau'r gymuned alw heibio am gyngor/gwybodaeth am ddiogelu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Ymwelydd Iechyd Sharon Allen Sharon.allen@wales.nhs.uk
Galw heibio Dechrau'n Deg
(Does dim angen cofrestru)
Dydd Iau 14 Tachwedd, 9:00yb – 10:00yb
Dechrau'n Deg Afon y Felin, Heol y Parc, Gogledd Corneli CF33 4LT
Darparu lle diogel mewn lleoliad cymunedol i aelodau'r gymuned alw heibio am gyngor/gwybodaeth am ddiogelu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Ymwelydd Iechyd Lydia Malone Lydia.malone@wales.nhs.uk
Gwasanaethau Cymorth Codi Ymwybyddiaeth: Galw Heibio Diogelu
(Does dim angen cofrestru)
Dydd Iau 14 Tachwedd, 10:00yb – 3:00yp
Atriwm Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd, CF37 1LB
Tîm diogelu yn cynnig lle diogel i drafod gwybodaeth diogelu a negeseuon iechyd cyhoeddus
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kristy Davies, Ymgynghorydd Trais yn y Cartref Annibynnol Iechyd (IDVA) kristy.davies2@wales.nhs.uk
Gwasanaethau Cymorth a Gwasanaethau Nyrsys Ardal Codi Ymwybyddiaeth: Galw Heibio Diogelu
(Does dim angen cofrestru)
Dydd Gwener 15 Tachwedd, 10:00yb – 3:00yp
Atriwm, Ysbyty Cwm Cynon, Ffordd Newydd, Aberpennar, CF45 4BZ
Tîm Diogelu a'r Tîm Nyrsio Ardal yn cynnig lle diogel i drafod gwybodaeth diogelu a negeseuon iechyd cyhoeddus
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Julie Welling – Uwch-Nyrs ar gyfer Tîm Nyrsio Ardal a Kristy Davies, Ymgynghorydd Trais yn y Cartref Annibynnol Iechyd kristy.davies2@wales.nhs.uk
08/11/2024