Mae Ward Seren yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi derbyn rhoddion o offer a dodrefn gan nifer o gwmnïau a sefydliadau lleol, wedi’u drefnu mewn partneriaeth â Thîm Gwastraff a Fflyd yr Amgylchedd CTM.
Mae'r rhoddion ar gyfer y ward, sy'n gofalu am bobl â dementia, yn cynnwys teledu clyfar 65 modfedd a roddwyd gan Currys, a set soffa a stôl droed a roddwyd gan Collecteco. Mae'r ddau bellach wedi'u gosod mewn ardal diwrnod cleifion sydd newydd ei adnewyddu, lle gall cleifion ymlacio a theimlo'n gyfforddus.
Mae rhodd y soffa yn rhan o bartneriaeth saith mlynedd rhwng CTM a Collecteco, sydd wedi rhoi gwerth miloedd o bunnoedd o offer swyddfa, a dodrefn i'r bwrdd iechyd.
Yn ogystal, rhoddodd timau o Signs Express a British Rototherm amser ac adnoddau i helpu i greu ffeithlun gosodadwy wal bws, y llwyddodd Tîm Gwastraff a Fflyd yr Amgylchedd gyfuno â rhai seddi heb eu hailddefnyddio, i greu ardal safle bws yn y ward.
Dywedodd Holly Risdale, Cydlynydd Marchnata Collecteco: Roedd hwn yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono, ac roedd yn wych cefnogi Ward Seren yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg."
Dywedodd Sharon Perkins, Cyfarwyddwr Gwerthiant Signs Express: "Roedd yn hyfryd bod yn rhan o'r broses ddylunio a chynhyrchu arwydd i efelychu safle bws lleol ar gyfer ward dementia Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rydw i’n gwybod pa mor bwysig yw gwneud eu hamgylchoedd i fod mor gyfarwydd â phosib i bobl sy'n byw gyda dementia ac mae arwyddion fel hyn yn creu amgylchedd cyfarwydd sy'n gallu eu helpu i deimlo'n ddiogel ac yn dawel".
Dywedodd Marc Penny, Cyfarwyddwr Gwella ac Arloesi BIPCTM: "Mae'r cleifion y mae Ward Seren yn eu gwasanaethu'n aml eisiau mynd adref ac yn chwilio am ffordd gyfarwydd allan o'r ward. Mae'r safle bws yn rhywbeth gyfarwydd i'n cleifion, ac yn creu man tawel iddyn nhw eistedd."
Dywedodd Calum Shaw, Rheolwr Cynaliadwyedd BIPCTM: "Mae'n anhygoel, drwy'r cydweithrediad hwn, bod y tîm wedi gallu cynhyrchu gwerth sylweddol i'r sefydliad o eitemau a allai fod wedi mynd i safleoedd tirlenwi fel arall. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o arfer cynaliadwy, gan gefnogi'r economi gylchol ac osgoi allyriadau carbon diangen."
Dywedodd Craig Edwards, rheolwr Gwastraff a Fflyd yr Amgylchedd BIPCTM: "Mae'r rhoddion hyn, a ddaeth o syniad Simply Do ac maen nhw nid yn unig wedi ein helpu i ail-bwrpasu offer a dodrefn a allai fod wedi'u gwastraffu, ond maen nhw wedi helpu BIPCTM i wneud gwelliannau sylweddol i Ward Seren.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r timau yn Rototherm, Signs Express, Currys a Collecteco am y rhoddion caredig, cefnogaeth ac ewyllys da. Hoffwn ddiolch hefyd i'n tîm Rheoli Gwastraff, tîm Ward Seren, Ystadau a phawb yn CTM a weithiodd mor galed i sicrhau bod y syniad Simply Do hwn yn dod yn realiti."
06/11/2024