Mae'n braf iawn gan Uned Gofal Dydd Dementia Tŷ Enfys Kier Hardie fod y cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad rhagorol 'Meaningful Care Matters'.
Dangosodd yr archwiliad gan ‘Meaningful Care Matters’ fod safon y bywyd i’r cleifion dydd yn Nhŷ’r Enfys i fod o’r safon uchaf, gyda gofal eithriadol yn cael ei roi gan staff cariadus a oedd wir yn gofalu am eu cleifion gan ddod â llawenydd, urddas ac ystyr i’w gofal.
Mae project cyfalaf Tŷ Enfys o £1.6m wedi cael ei ddefnyddio i drawsnewid amgylchedd gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol dementia cyfunol. Cenhadaeth yr uned ddydd yw cynnig gofal o’r safon uchaf i unigolion o 55 oed gyda datganiad Dementia cymedrol neu ddifrifol.
Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn y ganolfan ddydd i annog unigolion i gymryd rhan yn ddibynnol ar lefel y cyflwr gan sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posib. Mae’r ganolfan yn cefnogi a rheoli iechyd y cleifion gan weithio ar gadw’r caf, annibyniaeth a chefnogi gyda bywyd cymdeithasol. Mae’r staff profiadol yn sicrhau bod hyn yn digwydd yn rheolaidd, ond hefyd yn cefnogi gydag elfennau mwy cymhleth fel rhoi meddyginiaeth, gofal personol a chymorth bwyta ac yfed. Mae hyn yn cael ei wneud yn ofalus gan ystyried urddas y cleifion dydd yn y broses ofalu.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion CBSMT, Angela Edevane, “Rydyn ni yn hynod falch bod Uned Ddydd Dementia Tŷ’r Enfys wedi derbyn yr Achrediad Eithriadol. ‘Meaningful Care Matters’ gan ddangos gofal Dementia eithriadol yr wythnos hon.
“Tŷ’r Enfys yw'r gwasanaeth cyfunol Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyntaf yn y DU i dderbyn yr achrediad hwn. Mae yn ganlyniad i weithio ar y cyd rhwng CBSMT, BIPCTM a Thîm Comisiynu Rhanbarthol - sydd o fewn Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg - a Llywodraeth Cymru trwy raglen CGI.
“Mae Tŷ’r Enfys yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl yn byw gyda dementia wrth gefnogi gofalwyr ar draws Merthyr Tudful a Chynnon i’w galluogi i barhau â’u rȏl ofalu.
“Mae’r llwyddiant hwn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ac ymdrech ddiflino'r tîm yn Nhŷ’r Enfys i droi'r achrediad yn realiti.”
Dywedodd Julie Denley Cyfarwyddwr Gofal Cychwynnol ac Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae Tŷ’r Enfys yn wasanaeth pwysig sy’n cyfrannu at gefnogi pobl gyda dementia i fyw gartref cyhyd â phosib trwy eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae’r ailgynllunio yn arbennig ond mae ennill yr achrediad yn ardystiad o ymrwymiad pawb i sicrhau bod profiadau pobl yr un mor arbennig.”
Wrth siarad ar ran tîm yr Uned Gomisiynu Ranbarthol, dywedodd Nia McIntosh, Swyddog Comisiynu Rhanbarthol:
"Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o fuddsoddi Cyllid Gofal Integredig i'r gwasanaeth dementia unigryw hwn, sydd bellach wedi'i gydnabod gyda'r achrediad hwn. Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i deuluoedd a phobl sy'n profi dementia gael lle diogel a chyfforddus i'w wario. Roedd ‘Meaningful Care Matters’ yn allweddol wrth lywio amgylchedd cartrefol a chroesawgar sy'n cefnogi anghenion unigryw pob person.”
Dywedodd y Cynghorydd Tony Rogers, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r uned gofal Dementia newydd yn fendigedig, mae’r syniadau, y cenhedlu a’r canlyniad yn darparu cyfleuster o’r radd flaenaf i ddefnyddwyr dementia a’u teuluoedd. Mae'r cynllun yn groesawgar iawn, gydag ychwanegiadau lleol cyfarwydd wedi'u hychwanegu. Mae’n lleoliad hardd i helpu rhai o’n preswylwyr mwyaf agored i niwed ac ni allaf ddiolch digon i’r tîm am eu gwaith caled yn dod â’r cyfan at ei gilydd, yn enwedig yn ystod yr amseroedd caled rydym i gyd wedi’u hwynebu.
“Yn ogystal â’r cyfleuster gwych hwn, mae clywed y newyddion eu bod wedi cyflawni Achrediad Eithriadol yn dangos gwaith gwych y staff a’r tîm ac rydw i mor falch ohonyn nhw i gyd.”’
Am fwy o wybodaeth am ‘Meaningful Care Matters’ a’i fodelau trawsnewid diwylliannol, ewch i https://meaningfulcarematters.com/.
Mae Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn, fel rhanbarth i fuddsoddi Cyllid Gofal Integredig
DIWEDD
Ynglŷn â ’Meaningful Care Matters’
Arbenigwyr yw ‘Meaningful Care Matters’ mewn helpu cartrefi gofal i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau gan hwyluso gweithrediad effeithiol a chynaliadwy modelau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer y lleoliadau iechyd, cymdeithasol/oed, ac anabledd.