Bydd Tîm Profiad y Bobl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn cynnal “Sioe Deithiol Gwybodaeth ac Adborth” i staff ac aelodau'r cyhoedd yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar, ddydd Mawrth 22 Hydref 2024, rhwng 9yb a 4yp.
Bydd y sioe deithiol sy’n cael ei gynnal ym mhrif fynedfa'r ysbyty, yn cynnwys amrywiaeth o stondinau a gefnogir gan Dîm Profiad y Bobl a sefydliadau partner gwahanol, gan gynnwys:
Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS) BIPCTM
Gwirfoddolwyr BIPCTM – yn amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i gefnogi cleifion ar draws y Bwrdd Iechyd
Tîm Adborth Cleifion BIPCTM
Arweinydd Caplaniaeth BIPCTM
Arweinydd Profedigaeth Clinigol BIPCTM
Arweinydd Gofalwyr Di-dâl BIPCTM
Swyddog Cymorth Canser a Gwybodaeth Macmillan BIPCTM
Y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE)
Age Connect
Gorwelion Newydd
CAB4Carers
Bydd y Sioe Deithiol yn anelu at amlygu rhai o'r gwasanaethau sydd ar gael yn ysbytai a lleoliadau cymunedol BIPCTM
Dywedodd Jenny Oliver, Pennaeth Profiad Y Bobl yn y Bwrdd Iechyd: “Rydym yn cynnal y sioe deithiol hon i estyn allan yn rhagweithiol at ein cleifion, teuluoedd, gofalwyr di-dâl a staff i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael yn ein hysbytai gan y Bwrdd Iechyd a’n cymunedau gan sefydliadau trydydd sector.
Gobeithiwn y bydd hyn yn galluogi ein cymunedau i fyw yn dda, deall pa gymorth sydd ar gael a sut y gellir cael mynediad at wasanaethau.”
16/10/2024