Neidio i'r prif gynnwy

Tîm nyrsio BIP Cwm Taf Morgannwg yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times

Mae Tîm Nyrsio Ardal y Gogledd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi’i enwi yn rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2024.

Mae Gwobrau Student Nursing Times yncydnabod llwyddiannau eithriadol myfyrwyr nyrsio ac addysgwyr nyrsio.

Cyrhaeddodd y tîm rowndiau terfynol Lleoliad Myfyriwr y Flwyddyn: Gwobr Gymunedol yn y seremoni a chafodd ei gynnal yn Llundain ddydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Enwebodd Victoria Thornton, Arweinydd Tîm, y tîm am eu hymroddiad i gefnogi myfyrwyr a sicrhau bod ganddyn nhw amgylchedd dysgu o'r ansawdd gorau. Mae cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr yn cael eu rhoi trwy gydol eu lleoliad yn dibynnu ar eu hanghenion dysgu unigol. Cyn dechrau gyda'r tîm, mae myfyrwyr yn cael gwybodaeth allweddol am eu mentor a beth i'w ddisgwyl yn ystod eu hwythnosau cyntaf sy'n eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus. Yn ogystal, mae gweithio hyblyg yn cael ei gynnig iddyn nhw.

Mae lleoliadau cymunedol yn unigryw ac yn heriol ac mae lleoliad Cwm Taf Morgannwg yn cynnig gwaith integredig i fyfyrwyr – elfen unigryw o’r tîm hwn – lle maen nhw’n cyfarfod ac yn gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol cysylltiedig. Mae'r tîm yn gwerthfawrogi cyfraniad y myfyrwyr, gan eu hannog i gymryd rhan ym mhob agwedd ar y rôl yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol wythnosol a rhannu eu dysgu gyda'r staff presennol. Mae myfyrwyr yn aml yn gofyn am gael dychwelyd i'r tîm ar gyfer eu trydydd lleoliad ac yn ddiweddar mae'r tîm wedi penodi dau fyfyriwr fel nyrsys cofrestredig yn syth o'u lleoliad blwyddyn olaf.

Dywedodd Kelly Davies, Uwch Nyrs Dros Dro ar gyfer y tîm: “Mae Gwasanaeth Nyrsio Ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn falch iawn o gyhoeddi bod Tîm Nyrsio Ardal Rhwydwaith y Gogledd wedi’u henwebu a’u rhoi ar restr fer rownd derfynol Gwobr y Student Nursing Times ar gyfer categori Lleoliad Myfyriwr y Flwyddyn. Rydym yn eithriadol o falch o'r holl gyfleoedd sy’n cael eu darparu i'n myfyrwyr nyrsio o fewn ein holl dimau Nyrsio Ardal ond llongyfarchiadau mawr i Rwydwaith y Gogledd am eu henwebiad a chyrraedd y categorïau terfynol. Gwnaeth cais a chyflwyniad y tîm argraff fawr ar y beirniaid. Yr adborth a chafodd ei dderbyn oedd bod y tîm yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn dangos bod y gefnogaeth y maen nhw’n ei ddarparu i sbectrwm eang o fyfyrwyr yn eithriadol - da iawn i'r tîm. Canmoliaeth mawr i’n gwasanaeth a’n proffesiwn.”

 

17/05/2024