Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gofal Stoma a'r Colon a'r Rhefr yn codi dros £700 trwy Bore Coffi

Cynhaliodd Tîm Gofal Stoma a'r Colon a'r Rhefr fore coffi llwyddiannus yn Nghanolfan YMa, Pontypridd, gan godi dros £700 i gefnogi cleifion stoma. Cafodd yr ymgyrch codi arian Bowel Butties ei lansio yn ystod y digwyddiad, a chafodd ei mynychu gan gleifion, teuluoedd ac elusennau lleol.

Ym mis Medi, cynhaliodd Tîm Gofal Stoma a'r Colon a'r Rhefr Ysbyty Brenhinol Morgannwg fore coffi codi arian hynod lwyddiannus yn Canolfan YMa ym Mhontypridd sydd newydd ei agor, gan godi dros £700 i gefnogi cleifion stoma a'r colon a'r rhefr. Daeth y digwyddiad â staff BIP CTM, cleifion a'u teuluoedd ynghyd, a sefydliadau sy'n cefnogi gofal stoma am fore o goffi, cacen a sgwrs, i gyd yn enw achos cadarnhaol.

Mae stoma yn agoriad yn y corff a grëwyd yn ystod llawdriniaeth, fel arfer ar yr abdomen, i ganiatáu i wastraff adael y corff pan nad yw llwybrau arferol yn gweithio'n gywir. Gall byw gyda stoma gyflwyno heriau dyddiol, ac mae Tîm Gofal Stoma a'r Colon a'r Rhefr mewn partneriaeth â grŵp cymorth cleifion stoma lleol Rhondda Buddies, wedi bod yn trefnu'r boreau coffi hyn ers blynyddoedd i greu amgylchedd cefnogol, anffurfiol lle gall cleifion a'u teuluoedd deimlo'n llai ynysig.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys Cymorth Canser Macmillan, Gofal Canser Tenovus, ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, a fynychodd i gefnogi gydag adnoddau a chyngor ychwanegol.

Dywedodd Helen Wilson, Arbenigwr Nyrsio Clinigol y Colon a'r Rhefr Macmillan: "Mae'r boreau coffi hyn yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer codi arian, ond ar gyfer adeiladu rhwydwaith cymorth i'n cleifion. Gall byw gyda stoma fod yn heriol, felly mae cael cyfle i gwrdd ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg a dysgu am gynhyrchion a gwasanaethau newydd yn gallu newid bywydau. Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol tuag at brynu offer a fydd yn gwella'r gofal rydyn ni’n darparu, gan wneud arhosiadau yr ysbyty yn fwy cyfforddus i'n cleifion. Diolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad ac yn enwedig ein lleoliad, yr YMa, am gynnal a gwneud i ni i gyd deimlo bod croeso i ni i gyd."

Yn ogystal â'r bore coffi, lansiodd y tîm fenter codi arian newydd o'r enw "Bowel Butties" yn ddiweddar, i gefnogi Tîm Gofal Stoma ymhellach yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd yr ymgyrch yn codi arian i wella gofal a gwasanaethau cleifion i'r rhai sy'n byw gyda stoma. I ddysgu mwy neu gyfrannu, ewch i'r Tudalen ymgyrch Bowel Butties.

Mae'r holl wasanaethau ac ysbytai BIP CTM sy'n derbyn rhoddion yn cael eu cefnogi gan yr Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg, sef yr unig elusen swyddogol i gefnogi staff a chleifion y GIG ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf. Mae ein Helusen GIG CTM yn gwella bywydau pobl leol a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, trwy ddarparu cymorth nad yw'n cael ei ariannu gan y GIG fel arfer. Unwaith mae rhodd yn cael ei derbyn, mae'r Elusen yn cysylltu â staff lleol i ddefnyddio'r arian ar offer newydd, adnoddau lles, hyfforddiant ychwanegol, a llawer mwy.

Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen a Chynhyrchu Incwm ar gyfer BIP CTM: “Mae cefnogaeth gan godwyr arian fel hyn yn caniatáu i'n Helusen weithio gyda staff a chefnogi'r gwasanaeth y tu hwnt beth y gallai'r GIG ei ddarparu fel arfer. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a fynychodd a gyfrannodd. Gyda dros £700 wedi'i godi, bydd y digwyddiad yn cael effaith ystyrlon ar y gofal a ddarperir gan y tîm a lles y cleifion sy'n dibynnu ar eu gwasanaethau..”

Gall unrhyw staff neu aelodau o'r gymuned sy'n dymuno codi arian ar gyfer eu hysbytai neu wasanaethau lleol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wneud hynny drwy'r Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg – Cysylltwch â ni ctm.charity@wales.nhs.uk am fwy o wybodaeth.

13/11/2024