Ddydd Sadwrn 4 Mawrth, enillodd timau Dysgu a Datblygu a Datblygu’r Gweithlu BIP Cwm Taf Morgannwg dair gwobr fawreddog yng Ngwobrau CIPD Cymru, gan olygu mai BIP CTM oedd y sefydliad mwyaf cydnabyddedig yn y seremoni wobrwyo!
Dywedodd Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Pobl yn CTM:
“Mae cael ein cydnabod fel hyn gan y corff proffesiynol ar gyfer adnoddau dynol a datblygu pobl yn gyflawniad aruthrol ac yn glod i waith caled ein timau Datblygu a Dysgu a Datblygu’r Gweithlu yn CTM. Mae gwaith gwych y timau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r 13,000 o bobl a’n cymunedau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a RhCT.
“Allwn ni ddim bod yn fwy balch o’r timau, da iawn chi.”
Ychwanegodd Nick Carter, Pennaeth Datblygu Pobl:
“Mae’r gwobrau’n cydnabod y cyfraniadau eithriadol y mae ein timau Dysgu a Datblygu a Gwasanaethau Pobl ehangach yn eu gwneud i wella ein harlwy dysgu a datblygu, a chreu cyfleoedd cynhwysol i staff newydd a staff presennol uwchsgilio a chael gwaith ar yr un pryd.”
Gwobrau sy’n Cydnabod Gwaith CTM
Y fenter adnoddau a rheoli talent orau
Mae'r wobr yn cydnabod gwaith creadigol ac effeithiol i ddenu talent, cadw cyflogeion, rheoli talent, cynllunio'r gweithlu, a strategaethau ailstrwythuro sy'n ystyried anghenion y sefydliad nawr ac yn y dyfodol. Cafodd CTM ei gydnabod am ehangu llwybrau i gyflogaeth o'n cymunedau i'n gweithlu.
Dywedodd Heather Porch, enillydd gwobr a Hyfforddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Pobl: “Mae’n deimlad anhygoel i gael cydnabyddiaeth am y maes gwaith gwerth chweil hwn. Mae’r cynlluniau hyn yn sicrhau ein bod yn amrywio ein gweithlu ac yn sefydliad angori o fewn ein cymunedau trwy ddarparu profiadau gwaith gwerthfawr a chynhwysol.”
Y fenter dysgu a datblygu / datblygu sefydliadol orau
Derbyniwyd y wobr hon gan Reolwyr Datblygu Sefydliadol CTM. Mae’r wobr yn cydnabod cysylltiadau cryf rhwng cyflawni nodau busnes a gweithgarwch datblygu sefydliadol, a/neu strategaethau dysgu a datblygu i hybu sgiliau a gwella perfformiad.
Cafodd CTM ei gydnabod am fod yn esiampl o sut y gall sefydliadau sicrhau bod 'Gwerthoedd' yn ddefnyddiadwy, gan ddangos cyswllt gwych trwy Fenter Datblygu Sefydliadol wedi'i thargedu sy'n amlwg yn mynd i'r afael ag anghenion y sefydliad ac yn cynnig mesur gwych o effaith.
Dywedodd Becky Dyer, enillydd gwobr CTM a Rheolwr Datblygu Sefydliadol: “Roedd cyrraedd y rownd derfynol mewn grŵp mor fawreddog yn wobr ynddi’i hun – y fuddugoliaeth ar y noson oedd yr eisin ar y gacen.”
Cynllun Prentisiaethau Gorau (Canmoliaeth Uchel)
Mae'r wobr yn cydnabod sefydliadau sy'n amlwg wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel, gan ddangos sut y cânt eu hintegreiddio yng nghynlluniau gweithlu ehangach y sefydliad er mwyn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgwyr wneud cynnydd a chefnogi ymdrechion i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant.
Llongyfarchiadau i’n timau ar gael eu cydnabod am eu gwaith caled eithriadol a pharhaus – rydym yn hynod o falch ohonynt!
#CTMArEinGorau
10/03/2023