Neidio i'r prif gynnwy

Staff Cwm Taf Morgannwg ar restr fer deg gwobr Moondance Cancer

Mae nifer o dimau ac aelodau o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer deg o wobrau Moondance Cancer 2024.

Mae Moondance Cancer Awards yn dathlu ac yn rhoi sylw i bobl wych ledled GIG Cymru a'i bartneriaid sy'n darparu, arwain ac arloesi gwasanaethau canser.

Mae’r tîm sydd yn cynnwys Rhian Thomas, Louise Mullane, Kerry Davies, Jane Wall, Lindsey Jose, Claire Osborne, Helen Hembrow, Rebekah Norton, Emma Jones, Menna Payne, Cassandra George a Rhian Collins wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cyflawniad am y wobr Profiad Well i Gleifion am eu gwaith Clinigau Cyn-driniaeth Pen a Gwddf.

Mae Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr cyfranogiad a chynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn y categori Cyflawniad, am eu gwaith Siapio Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghymru. Mae'r tîm yn cynnwys Dr Sinan Eccles, Dafydd Snelling, Dr Grace McCutchan, Chris Coslett, Claire Wright, Amy Smith, Heather Ramessur-Marsden, yr Athro Kate Brain a Dr Samantha Quaife.

Mae tri thîm o BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Canfod a Diagnosis Cynnar yn y categori Arloesi a Gwella:

Mae'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Peilot Gweithredol Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint Cymru. Mae'r tîm yn cynnwys Sinan Eccles, Lyndsey Haffenden, Dr Elizabeth Sharkley, Julie Thomas, Amy Smith, Claire Wright, Chris Coslett, Dr Timothy Pearce a Paul Johnston.

Cyrhaeddodd Matthew Flage, Gareth Blandford a'r tîm Amserlennu Endosgopi ar y rhestr fer ar gyfer eu gwaith Gwasanaethau Endosgopi - Rhaglen Trawsnewid.

Mae tîm sydd yn cynnwys Sarah Maund, Sharon Donovan, Dr Sian Phillips, Nic George, Karen John, Claire Wells, Jamie White, Liz Hayward, Sian Hopkins-Davies, Gareth Goff, Tansy Studdart, Lianne Thomas, Margaret Feeney, Louise Donoghue, Nicola Edwards, Gemma Morris, Hayley Folley, Julie Parry, Lisa Wilkins a Louisa Brown Edwards - wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer eu gwaith Llywio Canser Radioleg.

Mae dau dîm BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr am Weithio gyda diwydiant a'r trydydd sector yn y categori Arloesi a Gwella:

Roedd y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser ar y rhestr fer ar gyfer eu gwaith Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint — peilot Gweithredol Cymru. Mae'r tîm hwn yn cynnwys Judi Rhys, Sinan Eccles, Chris Coslett, Claire Wright, Amy Smith, Lauren Edwards, Richard Erwin, Dr Nicholas Jones, Emma Bowen, Rebekah Canning, Tracy Cook a Sam Hare.

Roedd staff a phartneriaid BIP Cwm Taf Morgannwg gan gynnwys Martyn Perry-Hopton, Jonathan Ellis, Sandra Marshman, Alison Jackson, Claire Williams a Rhian Collins hefyd ar restr fer y wobr hon am eu gwaith ar Ragsefydlu: Diwallu anghenion cleifion drwy weithio aml-sector.

Mae tîm ar y cyd o BIP Cwm Taf Morgannwg, BIP Caerdydd a'r Fro ac BIP Aneurin Bevan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr gweithlu Canser yn y categori Arloesi a Gwella, ar gyfer y Gwasanaeth Carsinoma Hepatocellog Rhanbarthol ar gyfer De Cymru. Mae'r tîm yn cynnwys Alison Prichard, Catrin Taylor, Michelle Ford, Dai Samuel, Fidan Yousuf, Tara Rees a Tom Penfro.

Yn y categori Rhagoriaeth, mae Kirsty Morgan (Dirprwy Reolwr y Gyfarwyddiaeth) o BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Systemau a Llwybrau, ac mae Ms Zoe Barber (Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron Oncoplastig) wedi cael ei henwebu ar gyfer y wobr Feddygol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol BIP Cwm Taf Morgannwg Paul Mears “Rwy'n falch iawn bod cymaint o'n staff wedi cyrraedd rhestr fer  Moondance Cancer Awards 2024. Mae hwn yn blatfform gwych i arddangos ymdrechion staff Cwm Taf Morgannwg sy'n darparu, arwain ac arloesi gwasanaethau canser. Dymunaf bob lwc iddyn nhw ar gyfer rowndiau terfynol Moondance Cancer Awards ym mis Mehefin."

15/05/2024