Cododd staff BIPCTM o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Cwm Rhondda dros £2,000 ar gyfer Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg a chleifion lleol, drwy gerdded ar dri chopa mynydd uchaf Cymru’r haf hwn.
Tîm cryf o 16 pobl, sy'n cynnwys cydweithwyr o Ystadau, yr HSDU a ffrindiau staff, gan awydd i gadw’n heini, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r GIG. Penderfynodd y grŵp ymgymryd â Her Tri Chopa Cymru ar 27 Gorffennaf.
Gan ddechrau’r her ym Mannau Brycheiniog am 4.45yb, dechreuodd y tîm ddringo Pen y Fan am 4.45yb, cyn teithio ymlaen i ddringo Cadair Idris, ac o’r diwedd concro’r Wyddfa ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Gan frwydro yn erbyn yr elfennau, llwyddwyd i orffen yr her erbyn 8 y nos a chyrraedd yn ôl yn ddiogel i Lanberis.
Bydd yr arian y gwnaethon nhw ei godi yn mynd i Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg, yr elusen swyddogol ar gyfer holl staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bydd o fudd i gleifion ar wardiau YCR a ward plant YBM.
Cyrhaeddodd y tîm eu targed cychwynnol o £1,000 mewn pedwar diwrnod yn unig, a chyfanswm yr arian sydd wedi ei godi bellach yw dros £2390.
Dywedodd Jason Rual, Rheolwr Ystadau Gweithrediadau: “Roedd yn brofiad pleserus iawn, er am ddau ddiwrnod yn ddiweddarach roedd yn teimlo fy mod yn dringo Pen Y Fan eto bob tro yr es i fyny'r grisiau. Ond roedd y poenau hynny yn werth chweil at achos mor haeddiannol. Mae’n rhaid i fi ddiolch i’r tîm am yr holl waith caled a wnaethon nhw ar y daith gerdded hon, ein gyrrwr Ian Welsh a wnaeth ein cludo i bob dringfa ac adref yn ddiogel, a phawb sydd wedi cyfrannu’n hael trwy Just Giving.”
Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusennau a Chynhyrchu Incwm “Roedd hwn yn ffordd wych o godi arian a hoffwn ddiolch i bob un o’r tîm am eu hamser, eu hymroddiad a’u penderfyniad i gwblhau’r her aruthrol hon. Mae cymorth gan staff sy'n codi arian fel hyn yn galluogi Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg i gefnogi a gwella gwaith BIPCTM ymhellach. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl weithgareddau codi arian, a phob rhodd rydyn ni wedi ei derbyn.”
Os hoffech gefnogi'r tîm, gallwch gyfrannu drwy eu tudalen Just Giving YMA.
Gall unrhyw staff neu aelodau cymunedol sydd am godi arian ar gyfer eu hysbytai neu wasanaethau lleol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wneud hynny drwy Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg.
I gael rhagor o wybodaeth am Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg, e-bostiwch: ctm.charity@wales.nhs.uk