Neidio i'r prif gynnwy

Sophie o CTM yn ennill Gwobr Seren y Dyfodol yn Advancing Healthcare Awards 2024

Mae Sophie Roberts-Kozok, Uwch Ymarferydd Adran Llawdriniaethau ar gyfer Anaestheteg – Arweinydd Lles, Ysbyty’r Tywysog Siarl, wedi ennill Gwobr Seren y Dyfodol yn Advancing Healthcare Awards 2024.

Mae'r Advancing Healthcare Awards yn cydnabod ac yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd a'r rhai sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw mewn rolau cymorth, gan arwain arfer gofal iechyd arloesol ledled y DU.

Cafodd enillwyr eleni eu cyhoeddi mewn seremoni ddydd Gwener 26 Ebrill yn y Park Plaza Victoria, Llundain.

Cafodd Sophie ei chydnabod am ei gwaith ar les, sydd wedi gwella diogelwch cleifion, effeithlonrwydd theatrau a lleihau rhestrau aros.

Dywedodd Sophie “Roedd yn anrhydedd cael bod ar restr fer gwobr ‘Seren y Dyfodol’, heb sôn am fod yn ddigon ffodus i fod yn llwyddiannus wrth dderbyn y wobr. Mae lles yn bwnc llosg yn y GIG a chydag amgylcheddau gwaith prysur, nid yw bob amser yn bosibl bodloni gofynion lles staff. Ers 2020, ochr yn ochr â fy rôl fel Uwch Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau (ODP), fe wnes i fentro ar fy mhen fy hun i ddarparu cymorth lles i staff yn yr adran theatr ac Uned Therapi Dwys COVID, sydd wedi datblygu’n fwy diweddar yn dîm o 15 aelod o’r enw The Happiness Hive.

“Rydw i a The Happiness Hive wedi gweithio’n galed yn barhaus i ddarparu gweithredoedd caredig a chefnogaeth trwy ddiwrnodau lles, cyngor, cyfarwyddiadau, cefnogaeth emosiynol a gweithgareddau bondio tîm. Er ein bod yn naturiol yn gwneud y pethau hyn heb eisiau neu angen cydnabyddiaeth, roeddwn wrth fy modd bod gwerthfawrogiad yn cael ei roi i wirioneddol amlygu cymaint o waith anhygoel sydd wedi'i wneud i helpu ein cyd-weithwyr yn yr adran theatr YTS. Maen nhw’n dîm gwych a bydded i’r siwrnai les barhau.”

Dywedodd Will Windsor, Uwch Arweinydd Clinigol, Cynhyrchiant Theatrau – Theatrau, Cyn-asesu a Llawfeddygaeth Ddydd: “Pan ymunais â Theatrau’r Tywysog Siarl dros flwyddyn yn ôl roeddwn yn awyddus iawn i adolygu pa raglenni lles oedd ar waith. Yn dod o Dorset roeddwn eisoes wedi cyflwyno rhaglen lles theatr, a oedd wedi cael ei gefnogi gan aelodau allweddol o'r tîm o fewn theatrau.

“Cyfarfûm yn gyflym â Sophie a oedd yn awyddus iawn i ymhelaethu ar y gwaith anhygoel yr oedd wedi’i gyflawni yn ystod y pandemig. Mae Sophie wedi llunio ac arwain yr Happiness Hive (tîm Lles o fewn theatrau, DSU a Chyn-asesiad) ac wedi cefnogi ein sesiynau lles ddwywaith y flwyddyn. Mae Sophie a’r tîm yn defnyddio’r diwrnod Archwilio i godi ymwybyddiaeth a grymuso’r tîm i feddwl am les a beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw.

“Hyd yma, mae Sophie wedi cefnogi sesiynau fel ioga, baddonau gong, ymarferion adeiladu tîm, hyrwyddo hobïau a’r arwerthiannau cacennau (enwog) sy’n mynd ymlaen trwy gydol y flwyddyn i godi arian. Mae hon yn rhaglen hunan-gyllidol sy'n symbylu pwysigrwydd gweithio mewn tîm a'r tîm yn cymryd cyfrifoldeb am eu lles. Rwy’n hynod falch o Sophie a’r tîm ac yn gweld y wobr yn un positif iawn. Rwy'n gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth hon yn helpu i hyrwyddo pwysigrwydd gofalu am ein timau. Timau hapus a chleifion hapus.”

16/05/2024