Yn ddiweddar, enillodd Sarah Bisp, (Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Iechyd Meddwl) wobr Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd y Flwyddyn Cymru, yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn 2024
Cafodd Sarah, sydd wedi bod yn ei rôl am bron i dair blynedd, ei henwebu ar gyfer y wobr hon gan Sophie Bassett, Nyrs Arweiniol, a'i chyn-reolwr Paula Haddow, Nyrs Glinigol Arbenigol. Cafodd ei henwebu oherwydd yr ymrwymiad a'r ymroddiad y mae wedi'i ddangos yn ei rôl o ddydd i ddydd ac mae wedi dangos arloesedd yn ei gwaith, drwy sefydlu ac arwain bore coffi mewn partneriaeth â sefydliad lleol a grŵp Therapi Ysgogi Gwybyddol (CST).
Cymerodd Sarah yr awenau - dan oruchwyliaeth y nyrs gymwysedig - wrth ddatblygu'r Grŵp Ysgogi Gwybyddol ym Merthyr. Cafodd y rhaglen grŵp hon ei gynllunio i wella cymhelliant, hyder a hwyliau i bobl â dementia ysgafn i gymedrol, fel rhaglen saith wythnos, ond mae bellach wedi'i haddasu ar gyfer defnydd rhyngwladol tymor hwy.
Mae Sarah yn cefnogi'r unigolion hyn i barhau i gymryd rhan yn gymdeithasol, ac mae llawer o enghreifftiau o Sarah yn helpu pobl i adennill eu hyder a'u gallu i gymdeithasu yn eu cymuned.
Mae Sarah yn cael ei disgrifio fel gweithiwr cymorth gofalgar, tosturiol ac empathetig iawn. Mae hi'n gyfeillgar ac yn berson cynhyrfus ac mae hi bob amser yn gweld y gorau ym mhob sefyllfa, gan ymgymryd â heriau bob amser i wella canlyniadau cleifion.
Mae hi'n chwaraewr tîm sy'n defnyddio ei menter ac mae hi’n aelod staff brwdfrydig iawn. Mae Sarah yn falch o'i phroffesiwn ac yn cael ei hystyried yn fodel rôl i eraill.
Mewn adborth, disgrifiodd cleifion hi fel 'achubiaeth'. Wrth weithio gyda chleifion â dementia, mae hi wedi helpu i ddod â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r amlwg. Mae hi wedi dangos dealltwriaeth go iawn o effaith dementia ar gleifion a'u teuluoedd
Dywedodd rheolwr Sarah, Kirsty Jones (Nyrs Glinigol Arbenigol): "Rydym i gyd yn falch iawn o Sarah. Roedd cael ei henwebu ar gyfer y wobr hon yn gamp enfawr, ond i ennill oedd eisen ar y deisen! Llongyfarchiadau Sarah, rydych chi'n glod i'r tîm!
Dywedodd Sarah Bisp: "Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn ohonof fy hun am y gydnabyddiaeth rydw i wedi'i chael, ac rwy'n falch iawn o gael fy nghydnabod fel gweithiwr cymorth cymunedol".
I gael gwybod mwy am Wobrau Nyrs y Flwyddyn Y Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, cliciwch yma: https://www.rcn.org.uk/wales/Get-Involved/Awards