Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr addas i ymgymryd â rôl Rheolwyr Ysbyty Cyswllt o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae swydd Rheolwr Ysbyty yn rôl statudol fel y'i diffinnir yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 (y Ddeddf) ac mae'n darparu amddiffyniad i'r cleifion hynny sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf neu sy'n destun gorchmynion triniaeth gymunedol.
Mae Rheolwyr Cyswllt Ysbytai yn bobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiad a gwybodaeth o wahanol yrfaoedd ac ni allant fod yn gyflogeion i’r Bwrdd Iechyd ac sy’n cael eu penodi’n wirfoddol. Telir ffi benodol iddyn nhw am wneud y gwaith hwn, sef taliad o £50 i weithredu fel Cadeirydd a £45 fel aelod panel fesul gwrandawiad. Gall gwrandawiadau fod ar ffurf wyneb yn wyneb, sy’n caniatáu hawlio costau teithio a thrwy gyfryngau digidol.
Mae Rheolwr Ysbyty Cyswllt yn rôl wedi’i dirprwyo gan swyddogion a gyflogir gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol er mwyn cynnal adolygiadau o orchmynion cadw neu driniaethau cymunedol i'r cleifion hynny o dan y Ddeddf. Gan gymryd rhan fel aelod panel o dri, byddwch chi’n ystyried ac yn craffu a yw'r cyfiawnhad cyfreithiol yn cael ei fodloni a / neu a ddylid arfer pŵer rhyddhau.
Mae hon yn rôl bwysig a heriol a dylai fod gan reolwyr ysbytai sgiliau cyfathrebu cryf a all annog cleifion i fynegi eu teimladau eu hunain am eu gorchymyn cadw neu driniaeth gymunedol. Mae'n rhaid i chi feddu ar sgiliau gwrando da a gallu cymathu gwybodaeth yn gyflym a chydnabod a pharchu materion sy'n ymwneud â chyfrinachedd a diogelu data.
Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gweithio'n dda gydag eraill, sydd â dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth ac sydd â phrofiad o ddelio â phobl â phroblemau iechyd meddwl yn sensitif mewn modd gwrthrychol ac anfeirniadol. Rhaid i chi allu dangos rhywfaint o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Deddf Iechyd Meddwl 1983, a bod yn barod i sicrhau eich bod ar gael ar gyfer sesiynau hyfforddi a gynhelir o bryd i'w gilydd i gael diweddariadau cyfreithiol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Os caiff ei benodi i'r rôl wirfoddol hon, bydd angen cwblhau'r gwiriadau canlynol: Gwiriad DBS safonol; Gwiriad Iechyd Galwedigaethol;
Pan fydd yr holl wiriadau wedi'u cwblhau, cyhoeddir contract anrhydeddus, sef cytundeb ysgrifenedig a roddir i unigolion awdurdodedig, nad ydynt yn gyflogeion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).
I gael rhagor o wybodaeth a/neu gyflwyno CV, cysylltwch ag Alison Thomas, Rheolwr y Ddeddf Iechyd Meddwl ar Alison.Thomas@wales.nhs.uk
Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiadau yn ganolog i sut rydym yn gwneud pethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac mae’r gwerthoedd hyn fel a ganlyn:
Rydym yn gwrando, yn dysgu ac yn gwella
Rydym yn trin pawb â pharch
Rydym ni i gyd yn cydweithio fel un tîm
06/10/2023