Neidio i'r prif gynnwy

Rhiant maeth TWYMGALON a chyn-filwr yn codi ysbryd teuluoedd, pensiynwyr ac oedolion bregus sy'n ei chael yn anodd trwy gydol pandemig y Coronafeirws.

Sefydlodd Dawn Parkin, preswylydd angerddol yn Rhondda Cynon Taf (RhCT), y Lighthouse Project ddwy flynedd yn ôl, fel gwasanaeth i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth yn yr ardal yn wreiddiol.

Gan ddechrau o’i chartref ei hun i ddechrau, manteisiodd Dawn ar y cyfle i gymryd yr awenau dros Ganolfan Gymunedol Tonyrefail ym mis Ionawr 2020 — a oedd, yn ei geiriau ei hun, angen rhywfaint o “TLC”.

Mewn llai na dwy flynedd, mae'r Prosiect wedi ymuno â rhengoedd elusennau a sefydliadau tai ac iechyd a lles blaenllaw ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

Mae cydlynwyr llesiant yn RhCT (sy'n gweithio o feddygfeydd teulu) eisoes yn cyfeirio llawer o bobl at wasanaeth Dawn sy'n unig, sydd wedi'u hynysu neu sydd angen cymorth iechyd meddwl neu economaidd, gan leihau'r straen ar y meddygfeydd hynny. 

Wrth i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hybu’r neges  Helpwch Ni i’ch Helpu Chi y Gaeaf hwn - gan annog cymunedau i feddwl am opsiynau gofal iechyd eraill sy'n gweddu orau i'w hanghenion - mae Dawn yn awyddus i'r ganolfan gryfhau ei gysylltiadau â meddygfeydd a gweithwyr iechyd ymhellach.

 “Rydyn ni’n falch o chwarae ein rhan ni a gwneud beth bynnag y gallwn ni ei wneud i wneud bywyd yn haws ac yn fwy diogel i'n meddygon a'n nyrsys yn CTM sydd o dan gymaint o straen, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn”, meddai Dawn, a adawodd y Lluoedd Arfog ar ôl treulio 35 mlynedd mewn Logisteg a Lles lle oedd hi’n Uwch-gapten ac yn teithio i bedwar ban y byd.

“Mae hwn yn faes sydd wedi cael trafferth ers amser maith gyda materion economaidd a diffyg cyfleoedd. Mae’r Lighthouse Project yn ceisio mynd i'r afael â hynny; y nod yw rhoi rheswm i bobl godi o'r gwely yn y bore er nad oedden nhw’n gweld fawr o reswm dros wneud hynny o’r blaen, a rhoi lloches groesawgar iddyn nhw rhag eu trafferthion.

“Boed hynny'n broblemau iechyd meddwl, diweithdra neu dlodi, beth bynnag yw’r broblem, rydyn ni yma iddyn nhw.”

Yn anffodus, bu'n rhaid i Dawn gau drysau'r ganolfan ar ôl ychydig wythnosau pan drawodd Covid-19 y DU y gwanwyn diwethaf.

Doedd hi ddim yn barod i hynny fod yn rhwystr o fath yn y byd iddi hi fodd bynnag, a gan ddibynnu'n llwyr ar roddion ac ewyllys da, sefydlodd hi a grŵp o wirfoddolwyr fanc bwyd yn ei garej a dechreuodd gasglu eitemau o archfarchnadoedd a siopau cornel i'w dosbarthu i deuluoedd yn yr ardal oedd yn ei chael yn anodd iawn.

Wedyn, pan agorodd yr adeilad eto yn y pen draw, oherwydd yr “ ymddiriedaeth ddofn iawn” oedd wedi cael ei meithrin ymhlith y gymuned, roedd yna fwrlwm o weithgaredd a diddordeb.

“Mae'r banc bwyd wedi parhau - gydag anrhegion, teganau a hyd at 150 o fasgedi bwyd ar fin cael eu dosbarthu eto i'r rhai sydd eu hangen fwyaf y Nadolig hwn - ac ers yr haf rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaethau a rhwydweithiau cefnogaeth newydd sydd wedi cael croeso brwd,” meddai Dawn, sydd wedi maethu naw o blant ers gadael y Fyddin ac mae ganddi ei merch ei hun yn ogystal.

Wrth i bobl ddechrau meddwl am ymlacio dros y Nadolig, ‘does gan Dawn unrhyw gynlluniau i arafu ac mae ganddi bethau mwy o lawer ar y gweill i’r ganolfan yn gynnar yn 2022.

 “Mae clwb dros 50 oed gyda ni eisoes sy’n mynd i'r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd; grŵp cymdeithasol i bobl hŷn; gweithgareddau i rieni a phlant bach, ac ym mis Ionawr byddwn ni’n lansio canolfan galw heibio ar gyfer lles, clinig bwydo ar y fron a gwasanaeth cynghori, llecyn i ymlacio ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a sesiynau iechyd meddwl i ddynion — dydyn ni ddim wedi stopio,” meddai.

“A'r flwyddyn nesaf, mae ein prosiect yn bwriadu meithrin cysylltiadau agosach fyth â phartneriaid fel Interlink RhCT a'n partneriaid cymunedol ehangach ar draws CTM.”

 Ychwanegodd Dawn: “Rydw i wrth fy modd â’r Lighthouse Project; mae'n fy nghadw i'n fyw, fy ngwaith i oedd hyn i fod erioed.

“Y peth rwy’n teimlo’n falch drosto fwyaf yw bod pobl yn dod yma a hwythau’n wynebu eu cyfnod gwaethaf, ac rydyn ni'n eu helpu nhw. Mae cymaint ohonyn nhw’n dod yn wirfoddolwyr hefyd ac yna'n helpu pobl eraill, mae'n anhygoel.

“Fy ngweledigaeth i yw gweld Goleudai ar draws y Cymoedd, hyd yn oed ledled y byd! Fy mreuddwyd yw sefydlu un dramor yn ogystal; rydw i am adael etifeddiaeth ac effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Mae ffydd gref iawn gyda fi a dyna'r tanwydd ar gyfer fy angerdd a'r tân y tu mewn i fi i wasanaethu eraill.”

Mae newid canfyddiadau am ei chymuned yn fater arall y mae Dawn eisiau mynd i'r afael ag ef.

“Rydych chi'n gweld negyddiaeth am y Cymoedd, am dlodi ac amddifadedd, ond mae cyfoeth yn dod ar sawl ffurf,” meddai.

“Rydyn ni'n gyfoethog mewn ysbryd, ac allwch ddim prynu hynny - mae'n amhrisiadwy.”

Llongyfarchodd Paul Mears Dawn, sef Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ar ei “hymdrechion anhygoel” dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Meddai ef: “Fel Bwrdd Iechyd, un o'n prif flaenoriaethau yw creu cymunedau iachach gyda'n gilydd, ac mae’r Lighthouse Project yn enghraifft berffaith o hynny.

“Mae gan ein sefydliad bedwar prif nod — Creu Iechyd, Gwella Gofal, Ysbrydoli Pobl a Chynnal ein Dyfodol — mae'r rhain i gyd yn seiliedig ar weledigaeth Dawn. 

“Rydym ni wir wedi ein hysbrydoli gan y ffordd y mae'r ganolfan wedi uno'r gymuned yn ystod cyfnod mor heriol; mae'n dangos sut y gall angerdd a phenderfyniad un person wneud gwahaniaeth enfawr - mae Dawn wedi newid bywydau.

“ Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i ddod â chymorth iechyd meddwl a chorfforol a chymorth lles i'r rhai sydd ei angen fwyaf, a diolch i Dawn am fod yn ffynhonnell o obaith a charedigrwydd yng nghymuned Tonyrefail.”

I gyfrannu at y Lighthouse Project ac am fwy o wybodaeth, gallwch chi gysylltu â Dawn drwy'r dudalen Facebook: www.facebook.com/groups/181989913012650/.

Os oes angen help neu gyngor arnoch chi cyn cysylltu â'ch meddyg teulu, ewch i: www.111.wales.nhs.uk/LiveWell

I gael gwybod mwy am Gydlynwyr Lles Meddygon Teulu sy'n cynnig gwasanaethau cymorth yn eich ardal leol, siaradwch â'ch meddygfa leol.

Defnyddiwch yr hashnodau #HelpuNiHelpuChi a #HelpUsHelpYou i gefnogi'r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu chi.