Dros wyliau'r haf, mae ein gwasanaeth Brechiadau ac Imiwneiddio wedi bod yn gwahodd rhieni pob plentyn oedran ysgol a allai fod wedi methu un o'r brechlynnau canlynol i'w gwahodd i un o'n Canolfannau Brechiadau Cymunedol ar draws CTM:
Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR)
Fel arfer, mae’r brechiad hwn yn cael ei rhoi yn 12 mis oed a 3 blynedd a 4 mis oed yn eich meddygfa ac mae'n frechlyn dau ddos. Mae'r brechlyn MMR yn rhoi amddiffyniad rhag y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela. Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn glefydau heintus iawn sy'n gallu lledaenu'n hawdd rhwng pobl nad ydyn nhw wedi'u brechu.
Papilomafirws Dynol (HPV)
Fel arfer, mae hyn yn cael ei rhoi ym mlwyddyn ysgol 8 (12/13 oed) gan wasanaeth nyrsio'r ysgol. Mae'r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn bechgyn a merched rhag canserau sy'n gysylltiedig â HPV.
Grwpiau meningococol A, C, W ac Y (MenACWY)
Fel arfer, mae’r brechiad hwn yn cael ei roi ym mlwyddyn ysgol 9 (13/14 oed) gan wasanaeth nyrsio'r ysgol. Mae'r brechiad hwn yn darparu amddiffyniad rhag meningitis a septisemia sy’n cael eu hachosi gan bedwar grŵp o facteria meningococol – A, C, W ac Y.
Tetanws, Difftheria a Polio (Td/IVP)
Fel arfer, mae’r brechiad hwn yn cael ei roi ym mlwyddyn ysgol 9 (13/14 oed) gan wasanaeth nyrsio'r ysgol. Mae'r brechiad hwn yn cwblhau'r cwrs 5 dos a fydd yn rhoi amddiffyniad gydol oes i'r rhan fwyaf o bobl yn erbyn tetanws, difftheria a pholio.
Os nad ydych wedi gallu dod i'r apwyntiad a neilltuwyd i chi, ac yn credu bod eich plentyn wedi methu un o'r brechlynnau hyn, gallwch gerdded i mewn i unrhyw un o'n chwe Chanolfan Frechu Gymunedol rhwng 1 a 5 Medi. Gwiriwch y dyddiau ac amseroedd agor: https://bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/imiwneiddio-a-brechlynnau/sut-i-gael-eich-brechiad/
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch siarad â'n gwasanaeth Brechiadau ac Imiwneiddio ar 01685 726464 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm) neu anfon e-bost at ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk
Mae rhagor o wybodaeth am y brechiadau hyn a'r heintiau maen nhw’n amddiffyn rhagddynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/
26/08/2025