- Ewch i gael eich brechu! Os ydych yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw neu COVID, peidiwch â cholli allan. Cael eich brechu yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud i atal eich hun rhag mynd yn sâl a dioddef effeithiau gwaethaf y feirysau hyn.
- Ymwelwch yn gyfrifol. Mae achosion o'r ffliw, COVID, a salwch fel Norofeirws (byg chwydu'r gaeaf) yn cynyddu. Gall y feirysau hyn fod yn beryglus i gleifion sy’n agored i niwed mewn ysbytai, a gallant achosi prinder staff. Os ydych yn credu bod feirws gyda chi, neu wedi treulio amser gyda rhywun sydd â feirws yn ddiweddar, dylech osgoi ymweld ag ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.
- Dilynwch y cyngor. Pan fyddwch yn ymweld â lleoliad GIG, efallai y bydd gofyn i chi gymryd camau penodol i leihau lledaeniad afiechydon, fel gwisgo masg, golchi'ch dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo. Efallai eu bod nhw’n ymddangos fel pethau bach, ond maen nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr.
- Gwnewch ddewisiadau da! P'un a yw'n meddwl yn ofalus am wasanaeth y GIG sydd orau i chi (er enghraifft, dim ond ymweld ag adran argyfwng os yw'n argyfwng), dewis cael eich brechu, neu ymrwymo i newid ffordd o fyw ystyrlon, cynaliadwy (fel gwneud ymarfer corff bob dydd), mae gwneud dewisiadau sy'n briodol i chi a'ch iechyd yn un ffordd y gallwch ddechrau'r flwyddyn newydd yn y ffordd iawn.
- Gwnewch hi'n Flwyddyn Newydd y byddwch chi'n ei chofio... am y rhesymau cywir. Does neb eisiau dechrau'r flwyddyn newydd yn ystafell aros adran argyfwng neu yng nghefn ambiwlans, felly cymerwch ofal wrth i chi ddathlu gyda theulu a ffrindiau. Mae'r GIG yn hynod o brysur yr wythnos hon felly os byddwch yn ymweld ag adran argyfwng gyda salwch neu anaf llai difrifol, mae'n debygol y byddwch yn aros am amser hir i gael eich gweld wrth i ni drin y rhai sydd â phroblemau iechyd brys sy'n peryglu bywyd.
Gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda ac iach i chi i gyd.
31/12/2024