Neidio i'r prif gynnwy

Porth Ar-lein Newydd ar gyfer Lleoedd Deintyddol y GIG yng Nghwm Taf Morgannwg

Os ydych yn chwilio am ddeintydd y GIG ar draws Rhondda, Cynon, Taf Elái, Merthyr neu Ben-y-bont ar Ogwr, y  Porth Mynediad Deintyddol yw eich ffordd newydd o gofrestru eich diddordeb ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol y GIG.

Mae’r porth yn caniatáu i unigolion wneud cais drostyn nhw eu hunain neu ar ran rhywun arall, fel plentyn, aelod o’r teulu, neu rywun y mae’n gofalu amdano—boed hynny fel gofalwr cyflogedig neu ddi-dâl.

Gwybodaeth bwysig

Os ydych wedi ychwanegu eich manylion at Restr Aros Deintyddol BIP CTM o’r blaen, nid oes angen i chi ychwanegu eich manylion at y Porth Mynediad Deintyddol, bydd y Bwrdd Iechyd yn ychwanegu eich manylion cyswllt ar eich rhan.

Os ydych yn ansicr neu os yw eich manylion wedi newid ers i chi ychwanegu eich manylion cyswllt at restr aros y Bwrdd Iechyd, cysylltwch â 01685 351366.

Angen gofal deintyddol brys?

Os nad oes gennych chi fynediad rheolaidd at ddeintydd y GIG, neu os ydych chi'n dioddef poen deintyddol y tu allan i oriau, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth ddeintyddol frys ar 0300 123 50 60.

Cliciwch yma am wybodaeth bwysig ar beth i'w wneud nesaf.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae gwybodaeth am y broses ar-lein newydd ar gyfer cofrestru deintyddol y GIG hefyd ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg. 

 

12/02/2025