Cyflwynwyd paentiad gan yr artist Michael Dyer i staff Ysbyty Tywysoges Cymru heddiw, ar ran Cymdeithas Gweithred Caredigrwydd Ar Hap Cyn-filwyr Anabl Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r paentiad unigryw yn darlunio Florence Nightingale ochr yn ochr â Sophie Cooke, 24 oed, sy'n nyrs Adran Achosion Brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru a gafodd ei geni hefyd yn yr ysbyty ac sy'n byw yn y dref.
Dewiswyd Sophie i gynrychioli’r holl nyrsys ar draws Cwm Taf Morgannwg sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig.
Wrth siarad am y paentiad, dywedodd Sophie: “Mae’n anrhydedd llwyr cael fy newis i fod yn y llun hwn ac i gynrychioli fy holl gydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd. Deuthum yn nyrs gymwysedig a dechreuais fy rôl yn yr adran achosion brys fisoedd yn unig cyn i'r pandemig ddechrau. Fe wnaeth fy nhîm gwych fy nghefnogi’n fawr ac fe wnaethon ni helpu ein gilydd trwy gyfnod mor heriol.”
Wrth fynychu’r digwyddiad heddiw siaradodd Jamie Wallis AS a Maer Pen-y-bont ar Ogwr Martyn Jones am eu balchder yn y timau nyrsio yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Tom Weaver o Gyn-filwyr Anabl Pen-y-bont ar Ogwr yw'r dyn y tu ôl i'r syniad ar gyfer y paentiad, a dywedodd ei fod wedi'i fwriadu i ddwyn ynghyd realiti hanesyddol a modern nyrsio.
Mae'r paentiad bellach yn hongian lle amlwg yng nghoridor prif fynedfa'r ysbyty.
Dywedodd Cadeirydd Cwm Taf Morgannwg, Emrys Elias: “Rydym yn hynod falch o’n holl dimau nyrsio y mae eu hymrwymiad i’w rolau a’n cymunedau wedi bod yn rhagorol drwy gydol y pandemig. Mae'r paentiad hwn yn destament parhaol i Sophie a'i holl gydweithwyr ar draws CTM; atgof parhaol o bopeth y maent wedi'i gyflawni. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Tom a Chyn-filwyr Pen-y-bont ar Ogwr.”