Cafodd Phil ei gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun peilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint a ganfu amheuaeth o ganser yr ysgyfaint. Yn dilyn ymchwiliad pellach, cafodd hyn ei gadarnhau ac ers hynny mae wedi cael triniaeth ac mae bellach yn gwella. Dyma ei stori...
Lansiodd y peilot gwiriad iechyd yr ysgyfaint – y cyntaf yng Nghymru – gan BIP CTM yr hydref diwethaf. Cafodd y peilot ei sefydlu ar y cyd â'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser a'i nod yw canfod camau cynnar canser yr ysgyfaint, cyn bod unrhyw arwyddion neu symptomau.
Mae’r adroddiad gwerthuso ar gael ar ein gwefan a gwefan y Rhwydwaith Canser. Bydd yr adroddiad yn helpu i lywio gwaith y mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud ar sut y gellid darparu sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu yng Nghymru yn y dyfodol.
15/10/2024