Rhwng 15 a 19 Medi, byddwn yn cynnal cyfres o stondinau dros dro ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth am atal cwympiadau.
Os ydych chi wedi cwympo, neu eich bod yn poeni am gwympo, mae ein Gwasanaeth Atal Cwympiadau yma i helpu.
Nid yw cwympo yn rhan arferol o heneiddio.
Os ydych chi neu rywun annwyl yn ei chael hi'n anoddach codi a cherdded o gwmpas, yn cael pethau'n fwy anodd pan fyddwch allan, neu'n ofni cwympo, efallai y byddwch chi'n elwa o gael ‘MOT’ cwympiadau a dosbarth ymarfer corff.
Os ydych chi’n ymweld â’n hysbytai yn ystod y dyddiadau hyn, edrychwch am ein stondinau dros dro (gwybodaeth isod).
Llinell gymorth am gwympo
Rydych chi hefyd yn gallu cysylltu â’n llinell gymorth am ragor o wybodaeth:
Stondinau gwybodaeth
Dyma amserlen o’n stondinau dros dro lle byddwch chi’n gallu derbyn gwybodaeth a chwrdd â’n harbenigwyr cwympo...
Dydd Llun 15 Medi
Dydd Mawrth 16 Medi
Dydd Mercher 17 Medi
Dydd Iau 18 Medi
Dydd Gwener 19 Medi
Digwyddiad Atal Cwympiadau a Lles Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad: Canolfan Richard Price, Heol Betws, Llangeinwyr, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8PF
Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Medi 2025
Amseroedd: 10am – 2pm
Mae'r digwyddiad cymunedol hwn, a gynhelir gan Grŵp Partneriaeth Cwympiadau Pen-y-bont ar Ogwr, wedi'i anelu at aelodau'r cyhoedd - yn enwedig y rhai a allai fod yng nghyfnodau cynnar profi cwympiadau - yn ogystal ag unrhyw weithwyr proffesiynol a hoffai fynychu.
Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau lles ac ataliol sy'n hyrwyddo atal codymau, heneiddio'n iach a pharhau i fod yn weithgar yn y gymuned leol, gan gynnwys:
Gweld manylion llawn y digwyddiad yma.
Nid oes angen bwcio, mae croeso i bobl ddod ar y diwrnod.
Adnoddau ychwanegol
11/09/2025