Gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector, mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn newid y ffordd mae pobl sy'n byw gyda Dementia datblygedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael cymorth er mwyn cadw eu hannibyniaeth.
Mae Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ganolfan i bobl yn y gymuned sydd wedi cael diagnosis o Ddementia. Mae'r Ganolfan ar agor yn ystod yr wythnos ac yn cael ei redeg gan dîm amlddisgyblaethol, sy’n cynnwys staff cymorth ymarferol ac emosiynol.
Gan ddefnyddio'r Gronfa Gofal Integredig, bwriad y prosiect yw gwella'r cynnig cymunedol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a chyflawni'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Dementia a Safonau Dementia Cymru. Nod cyffredinol y prosiect yw osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty a gofal hirdymor, a rhoi cymorth i ofalwyr er mwyn iddyn nhw allu parhau yn eu rôl wrth fyw gyda phobl â Dementia a/neu ofalu amdanyn nhw.
Meddai Sophie Bassett, Rheolwr y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, “Mae'r Ganolfan yn ‘siop un stop’ i bobl sy'n byw gyda Dementia yn ein cymunedau. Yn ogystal â llu o wasanaethau cymorth, mae nyrs iechyd meddwl arbenigol yno bob dydd i ddarparu cyngor clinigol. Nod yr adnodd gwych hwn yw cadw pobl gartref cyhyd â phosib wrth roi'r cymorth a'r seibiant angenrheidiol i'r rheiny sy'n gofalu amdanyn nhw.
“Drwy sefydlu canolfan fel hon yn y gymuned, bydd angen derbyn llai o bobl i'n hysbytai, gan eu bod nhw’n cael y gofal cywir yn y lleoliad cywir.”
Mae modd defnyddio'r ganolfan am ychydig oriau ar y tro, neu am ddiwrnod llawn, ac mae pwll dŵr ar gael yno hefyd.
Yn ogystal â Sophie, mae Carmel Donovan, Rheolwr y Gwasanaethau Cymunedol Integredig ac arweinydd y prosiect, yn ystyried cynlluniau gyda thîm y Ganolfan Ddydd i ehangu’r gwasanaeth ymhellach. Dyma hi’n egluro: “Rydyn ni’n ystyried y cynnig i bobl sy'n byw gyda Dementia Cychwyniad Cynnar drwy greu lle yn yr uned i ddiwallu anghenion yr unigolion hynny. Wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio, rydyn ni’n gobeithio gallu defnyddio'r lle sydd ar gael, cynnal gweithgareddau ystyrlon gyda chymorth gan Mental Health Matters, yn ogystal â sefydlu caffi ar y safle.
“Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o gyd-gynhyrchu ac integreiddio gan yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd a’r trydydd sector, ac yn gyfle i gael adborth a syniadau o ran gwella gan ddefnyddwyr y gwasanaeth eu hunain yn rheolaidd."