Rhybudd - Genedigaeth Gynamserol (Premature Birth)
Bob blwyddyn ar Ddiwrnod Cynamserol y Byd, rydym yn taflu goleuni ar y babanod a chafodd eu geni yn rhy gynnar, y teuluoedd sy'n eu cefnogi, a'r timau anhygoel sy'n gofalu amdanyn nhw.
Eleni, rydym yn rhannu straeon bwerus gan gleifion gan deuluoedd ledled Cwm Taf Morganwg a gafodd brofiad uniongyrchol o ofal newyddenedigol – ochr yn ochr â neges fideo arbennig gan ein cydweithwyr Newyddenedigol i ddathlu Diwrnod Cynamseroldeb y Byd.
Mae'r straeon hyn yn tynnu sylw at y teithiau emosiynol, yr heriau, a'r eiliadau o obaith sy'n dod gyda genedigaeth gynamserol. Mae’n nhw hefyd yn dangos tosturi ac ymroddiad ein timau newyddenedigol, sy'n mynd yr ail filltir i gefnogi teuluoedd yn ystod rhai o gyfnodau anoddaf eu bywydau.
Pan gafodd mab bach Emma ei eni, William, ar ddim ond 32 wythnos ym mis Mai 2021, roedd y DU yn dal dan glo. Roedd ysbytai yn dilyn gweithdrefnau llym, ac roedd Emma yn wynebu'r her o lywio genedigaeth gynamserol heb gefnogaeth y teulu.
Ar ôl darganfod curiad calon afreolaidd yn ystod beichiogrwydd, cafodd Emma ei monitro'n rheolaidd. Ar 6 Mai, aeth curiad calon y babi William yn beryglus o gyflym, gan arwain at doriad Cesaraidd brys. Yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o syndrom Wolff Parkinson White.
“Roedd yn gyfnod brawychus iawn,” cofia Emma. “Roedd y nyrsys a’r meddygon a ofalodd am William mor garedig a gofalgar – fyddwn ni byth yn eu hanghofio.”
Diolch i'w hymdrechion diflino, daeth William adref ychydig cyn ei ddyddiad geni. Heddiw, wrth iddo ddathlu ei bedwerydd pen-blwydd, mae William yn hapus, yn iach, ac wedi'i ryddhau'n llwyr o gardioleg.
Mae Emma bellach yn cynnal dosbarthiadau babanod lleol ac yn rhannu ei phrofiad i gefnogi rhieni eraill. “Rwyf eisiau i famau babanod bach wybod: nid yw'r dyddiau brawychus yn para am byth. Mae gobaith.”
“Doedd gen i ddim syniad fy mod i mewn esgor ac ar fin rhoi genedigaeth”
Rhoddodd Ellie enedigaeth i'w bachgen bach Morgan yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar 27 Medi 2024am 6:09am. Cyrhaeddodd ar ddim ond 27 wythnos a dau ddiwrnod, gan bwyso 2pwys 13oz. O fewn awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty, cafodd Morgan ei eni.
“Dwi'n cofio edrych i fyny ar ôl rhoi genedigaeth a gweld byddin gyfan o bobl yn barod ac yn aros i Morgan cyrraedd. Er bod cymaint yn digwydd yn yr ystafell, gwnaeth Taryn sicrhau bod tad Morgan yn cael torri'r llinyn bogail a bod gennym rai lluniau teuluol wedi'u tynnu pan oedden nhw'n gwybod ei fod yn sefydlog. Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd faint fyddai'r lluniau hynny'n ei olygu i mi.”
Cafodd Morgan ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru ac arhosodd y teulu yn llety Ronald McDonald am rai wythnosau. Pan oedd Morgan yn ddigon sefydlog, dychwelasant i Ysbyty'r Tywysog Siarl.
“Roedden ni wedi dod mor arfer â byw ar dir yr ysbyty roedd yn sioc i ni orfod gadael Morgan yn y nos a gyrru i ffwrdd. Roedden ni'n rhieni eithaf dwys - yn holi llawer o bethau ac yn aros yno tua 12 awr y dydd y rhan fwyaf o ddyddiau - ond ni wnaethon ni erioed deimlo ein bod ni'n ormod. Fe wnes i chwerthin gyda'r tîm newyddenedigol ac yn crio gyda nhw ar rai adegau. Doeddwn i erioed yn meddwl y byddai gen i dîm mor anhygoel o weithwyr proffesiynol wrth fy ochr ac yn eirioli dros ddymuniadau fy hun a Morgan. Maen nhw hyd yn oed yn gadael i mi gysgu ar y ward I dros nos am gwpl o wythnosau. Roedden nhw wir yn teimlo fel modrybedd Morgan.”
Nid oedd popeth yn syml. Dirywiodd anadlu Morgan ar adegau ac roedd angen lefel uwch o gefnogaeth ocsigen arno. Yn gyfan gwbl, treuliodd y teulu tua 12 wythnos ar y ward newyddenedigol.
“Cawsom ein rhyddhau wythnos cyn y Nadolig - ei ddyddiad dyledus oedd Dydd Nadolig mewn gwirionedd! Daeth Morgan adref ar ocsigen, yr oedd ei angen arno tan fis Mawrth 2025. Nawr mae'n bachgen bach bywiog, llawn bywyd. Fel teulu, rydyn ni'n dal i siarad am fod ar y ward a pha mor wallgof oeddem ni ar rai adegau, ond mewn gwirionedd ni allwn ddarlunio dechrau bywyd Morgan unrhyw ffordd arall nawr.”
“Cafodd ein bachgen bach ei eni i’r byd saith wythnos yn gynnar.”
Yn ystod y trydydd trimester, datblygodd Angharad cyn-eclampsia, a chafodd y babi Tarian ei eni yn 33 wythnos a dau ddiwrnod, gan bwyso dim ond 3 pwys a 5 owns. Fel mam am y tro cyntaf, roedd Angharad yn hollol ofnus – ond o'r eiliad y cyrhaeddon nhw'r ward newyddenedigol, newidiodd popeth.
“Gwnaeth y nyrsys a’r staff anhygoel yr holl wahaniaeth. Roedd y gofal, y gefnogaeth a'r cyngor a gawsom yn wirioneddol allan o'r byd hwn.”
Wynebodd Tarian rwystr yn ystod ei gyfnod ar y ward pan ddatblygodd Syndrom Croen wedi'i Sgaldio – cyflwr prin a phryderus. Ond diolch i weithredu cyflym a gofal cyson y tîm, fe lwyddodd i gyrraedd yn ddiogel.
“Beth a’n cyffyrddodd fwyaf oedd pa mor ddwfn oeddech chi i gyd yn teimlo drosom ni yn ystod y foment anodd honno – dangosodd faint o galon sydd ym mhopeth rydych chi’n ei wneud.”
Roedd y teulu'n ddigon ffodus i ddathlu Diwrnod Cynamserol y Byd ar y ward. Mae'r anrhegion bach a adawyd wrth ochr gwely Tarian bellach wedi'u cuddio yn ei flwch atgofion – atgof parhaol o'r cariad a'r caredigrwydd a deimlasant gan bawb yno.
Wrth i ben-blwydd cyntaf Tarian agosáu, mae Angharad yn myfyrio ar y daith gyda diolchgarwch dwfn.
“Fyddwch chi byth yn gwybod faint roedd eich tosturi, eich sgiliau a'ch cynhesrwydd yn ei olygu i ni. Doeddech chi ddim yn nyrsys iddo yn unig – daethoch chi fel teulu i ni i gyd.”
Bydd y teulu’n ddiolchgar am byth i’r tîm newyddenedigol am fod yn rhan o daith Tarian.
“Diolch o waelod ein calonnau am bopeth a wnaethoch chi i’n bachgen bach, ac i ni.”
Ganwyd Teddy yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn 34 wythnos. Mae Mam, Catherine, yn rhannu ei phrofiad:
“Pan oeddwn i’n feichiog gyda Teddy, dyma oedd ein 11fed beichiogrwydd ar ôl 10 gamesgoriad, ac roedd y daith yn llawn cymhlethdodau. Erbyn 32 wythnos, roedd gen i brawf ffetws ffibronectin positif sy'n dod â risg uwch o esgor cynamserol. Ar 33 wythnos a thri diwrnod, torrodd fy nŵr Cyrhaeddodd Teddy yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn 34 wythnos.
Roedd Teddy yn sâl iawn pan gafodd ei eni ac yn dioddef o anhawster anadlu. Bu’n rhaid ei fewntiwbio a’i drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle cafodd driniaeth am sepsis ddwywaith. Ar ôl saith diwrnod yn UHW, cafodd ddod yn ôl i PCH, lle treuliodd bedair wythnos arall.
Gan ei fod yn ystod COVID, doeddwn i a fy ngŵr ddim yn gallu ymweld â Teddy gyda'n gilydd oherwydd cyfyngiadau, a oedd yn anodd iawn.
Heddiw, mae Teddy yn bum mlwydd oed ac yn frawd mawr anhygoel i Tommy. Yr unig effaith barhaol o'i ddechrau anodd yw asthma.
Fy neges i unrhyw un sydd â babi ar SCBU yw y gall y nod o ddod â'ch babi adref deimlo miliwn o filltiroedd i ffwrdd, ond fe gyrhaeddwch chi yno. Mae staff yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn trin pob babi fel eu babi eu hunain, sy'n gysur mawr yn ystod yr oriau na allwch fod yno.”
Dechreuodd taith Alfie yn llawer cynharach nag oedd neb yn ei ddisgwyl. Cafodd ei eni ar ddim ond 24 wythnos, yn pwyso 1 pwys 2 owns, gan ddod i’r byd yn fach ac yn fregus, ond yn benderfynol o frwydro o’r eiliad gyntaf.
Mae ei fam, Sarah, yn rhannu ei phrofiad:
Ganed Alfie’n gynnar oherwydd pre-eclampsia. Yn lle aros yn y groth tan fis Mawrth 2012, fe’i ganed ar 24ain o Dachwedd 2011 — bron i bedwar mis yn rhy gynnar.
Treuliodd Alfie ei dri mis cyntaf ym Mryste, yng nghanol peiriannau a sŵn tawel yr uned newyddenedigol. Yna cafodd ei drosglwyddo i Gaerdydd ar gyfer llawdriniaethau achub bywyd, ac yna treuliodd bedair wythnos arall yn Ysbyty’r Tywysog Siarl cyn iddo fod yn ddigon cryf i fynd adref i Ferthyr.
Roedd ei ddyddiau cynnar yn llawn o heriau na ellir eu dychmygu. Bu ar y peiriant anadlu am amser hir, ac ar y 18fed o Ragfyr 2011 bu’n ddifrifol wael gyda sepsis. Roedd y meddygon wedi paratoi’r teulu ar gyfer y gwaethaf, ac fe roddwyd ei gysegriadau olaf iddo. Ond ni ildiodd Alfie. Yn erbyn pob disgwyliad, fe frwydrodd yn ôl — ac o’r eiliad honno ymlaen, cafodd ei adnabod fel ‘y babi bach gwyrthiol’.
Alla i byth ddiolch digon i’r GIG ac fe fyddai wastad yn ddyledus iddyn nhw.”
Heddiw, er gwaethaf popeth a wynebodd ar ddechrau ei fywyd, mae Alfie’n fachgen hapus, llawn bywyd, sy’n mwynhau’r ysgol ac yn dod â llawenydd i bawb sydd o’i gwmpas.
Mae ei stori’n dangos pa mor gryf a pha mor gobeithiol y gall bywyd fod.
Clywch neges arbennig gan Lisa, Uwch Nyrs Dros Dro, a Natalie, Arweinydd Bwydo Babanod yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ar Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd.
Gall genedigaeth gynamserol fod yn llethol, ac nid oes dau daith yr un fath. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei effeithio gan enedigaeth gynamserol, mae cymorth ar gael.
Rydym yn argymell ymweld â gwefan Bliss – yr elusen flaenllaw yn y DU ar gyfer babanod a chafodd eu geni yn gynamserol neu'n sâl – am wybodaeth, canllawiau a gwasanaethau cymorth dibynadwy i deuluoedd.
Diolch i'r teuluoedd a rannodd eu straeon, ac i'n timau newyddenedigol am y gofal maen nhw'n ei ddarparu bob dydd.