Mae nyrs o Gwm Taf Morgannwg wedi ennill gwobr fawreddog Nyrs y Frenhines am ei gwaith ymroddedig yn y gymuned.
Andrea Dorrington yw'r brif nyrs ar gyfer gofal sylfaenol brys, ac mae’n gweithio gyda'r gwasanaeth nyrsio ardal a’r gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau. Yn ogystal â gofalu am gleifion yn uniongyrchol, mae'n helpu i reoli'r Tîm Gofal Sylfaenol Brys, gweithredu polisïau a gweithdrefnau newydd, a hyfforddi ei chyd-nyrsys.
Yn ystod pandemig COVID-19, roedd Andrea hefyd yn rhan o'r tîm sefydlodd hyb cymunedol, i roi cymorth i nyrsys ardal sy'n gweithio gyda chleifion oedd wedi dal y feirws, a staff cartrefi gofal oedd yn gweithio i gadw preswylwyr mor iach â phosib ac yn eu hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty.
Dechreuodd Andrea ei gyrfa ym maes gofal iechyd ym mis Awst 1987 ac, ar wahân i seibiant byr er mwyn gweithio ym maes addysg nyrsio, mae wedi bod yn helpu cleifion yng nghymunedau Cwm Taf Morgannwg ers hynny.
Mae teitl Nyrs y Frenhines yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i lond llaw o nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned ac ym maes gofal sylfaenol. Mae’r rhain wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o ofal i gleifion, yn ogystal â’r safonau uchaf o ddysgu ac arwain.
Yn rhan o’r broses ymgeisio drylwyr, rhaid i'r nyrsys, yr ymwelwyr iechyd a’r bydwragedd sy'n gwneud cais roi tystiolaeth o'u harbenigedd yn y maes, a dangos eu bod yn uchel eu parch ymysg eu cyfoedion, eu cydweithwyr, eu cleifion a'u teuluoedd.
“Sgrechiais i pan ges i’r e-bost yn wreiddiol. Roedd hi’n sioc enfawr. Roedd y broses ymgeisio’n anodd iawn a doeddwn i ddim erioed yn disgwyl cael y wobr hon,” meddai Andrea.
“Mae’n gallu bod yn anodd i ni fel nyrsys gynnig ein hunain am wobrau fel hon. Dydyn ni ddim yn hoff o werthu ein hunain, rydyn ni’n beirniadu ein gwaith ac yn chwilio am ffyrdd o wella bob amser,” ychwanegodd Andrea.
“Braint fawr yw cael y wobr hon, a braint yw cael gwneud beth rwy’n ei wneud, sef mynd i mewn i gartrefi pobl a’u helpu nhw.”
Erbyn hyn, mae Andrea yn un o 1,700 o nyrsys ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n berchen ar deitl mawreddog Nyrs y Frenhines.
Yn sgil y gydnabyddiaeth, daw'r budd ychwanegol o fod yn rhan o rwydwaith, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu ac i gael bwrsariaethau.
“Bydd hyn yn creu cyfleoedd i mi rwydweithio â nyrsys eraill ledled y wlad sy’n Nyrs y Frenhines, yn ogystal â dysgu oddi wrthyn nhw a dod ag arfer da yn ôl i’r gwasanaethau yma,” esboniodd Andrea.
Mae Sefydliad Nyrs y Frenhines hefyd yn gweithio'n agos gyda llywodraethau cenedlaethol i greu a datblygu polisïau ar gyfer nyrsio cymunedol. Mae hyn yn golygu bod y nyrsys gyda’r teitl arbennig hwn yn cael cyfle i roi eu barn ar ofal i gleifion ac arferion gwaith ledled y wlad.
“Mae Andrea yn aelod gwerthfawr iawn o’n tîm, ac mae’r gydnabyddiaeth hon wedi bod yn hwb mawr i ni i gyd yn ystod yr adeg hon,” meddai Martine Randall, Pennaeth Gofal Sylfaenol Brys.
“Gwobr nyrsio gymunedol fawreddog yw hon sy'n cydnabod ymrwymiad Andrea i nyrsio, a safonau uchel o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf.”