Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Fron Eilaidd cyntaf Macmillan yng Nghymru yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dywedwch helo wrth Gail Williams, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Fron Eilaidd cyntaf Macmillan yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Canser y fron eilaidd yw pan mae celloedd canser o ganser sydd wedi dechrau yn y fron yn lledaenu i rannau eraill o'r corff. Gellir hefyd ei alw'n ganser y fron metastatig a chanser datblygedig y fron.

Gellir rheoli canser eilaidd y fron, yn aml am flynyddoedd lawer, ond ni ellir ei wella. Mae triniaethau newydd a gwell yn golygu bod merched a dynion â chanser eilaidd y fron yn byw am gyfnod hirach, ond mae'n ddiagnosis cymhleth lle gall nifer o broblemau iechyd effeithio ar gleifion, ond yn aml mae'n bryder mawr i'r claf sy'n wynebu canser unwaith eto.

Mae Gail wedi bod yn nyrs ers 37 mlynedd ac mae'n CNS canser profiadol iawn. Mae Gail yn dod â'i harbenigedd i'r rôl hanfodol hon sy'n darparu gofal medrus a phersonol, gan wella profiad cleifion canser a'i chydweithwyr yn y gweithlu canser.

 

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Gail yng Nghanolfan Fron Snowdrop sydd newydd ei agor ym mharc iechyd Gwan Elai, ochr yn ochr ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant:

Beth yw'r rhan orau am eich rôl fel CNS?

"Gwybod eich bod chi mewn rhyw ffordd yn galluogi person i gymryd rhywfaint o reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw. Mae cael y cyfle i feithrin perthynas gyda'r person hwnnw a'i deulu sy'n eu galluogi i fagu hyder y timau sy'n gofalu amdanyn nhw'n fraint.

"Mae gweld rhywun yn gallu cyfleu ei anghenion ac yn bwysig bod yn rhan o benderfyniadau am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw oherwydd rhywbeth rydych chi wedi'i wneud cyn y cyfarfod hwnnw, yn gwneud i mi deimlo'n dda am yr hyn rwy'n ei wneud."

Pa foment sydd wedi diffinio eich gyrfa fel CNS?

"Dydw i ddim yn meddwl bod un eiliad wedi bod. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau sydd wedi cefnogi'r gwelliannau i driniaethau canser yn fy ngyrfa. Heb os, mae'r rhain wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw.

"I'r rhai sy'n fy adnabod rwy'n angerddol am yr hyn rwy'n ei wneud. Gymaint o weithiau, mae pobl wedi dweud wrtha i, "Allwn i ddim gwneud y gwaith rydych chi'n ei wneud, mae'n rhaid bod e'n drist iawn," ac wrth gwrs mae fel rwy'n gwybod o brofiad personol. Gall canser ddigwydd i unrhyw un ohonom ni, mae'r profiad yn unigryw ac o'r herwydd rwy'n gofyn; ai dyma'r ffordd y byddwn i eisiau cael fy nhrin gan y bobl sy'n gofalu amdana i? 'Beth fyddwn i eisiau?'

"Mae'n brofiad gostyngedig i fod yno yn cefnogi rhywun ar adeg mor ofidus. Does dim llawer o yrfaoedd sy'n ein hatgoffa pa mor bwysig yw byw bywyd da ac ystyrlon."

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gyrfa fel CNS?

"I mi, mae wedi bod yn un o'r rolau gyda mwyaf o ffocws a mwyaf gwerth chweil yr wyf i wedi'u cael, er bod gennych chi lawer iawn o ymreolaeth gall hyn fod yn anodd ar adegau, mae bod yn rhan o dîm sy'n rhannu'r un nodau gyda'r nod trefynol o wella gofal a thriniaeth canser y Fron yn golygu popeth.

"Er y gall y rôl gynnwys sgyrsiau heriol mae llawer iawn o barch a chefnogaeth i'w rhoi a'u derbyn o fewn y tîm, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio, dim ond os oes gennych chi bobl o'ch cwmpas yn rhannu'r un nodau y gallwch chi fod yn effeithiol."

Chi yw'r CNS Canser y Fron Eilaidd Macmillan cyntaf yng Nghymru. Beth mae hynny'n ei olygu i chi, a beth yw'r heriau a'r cyfleoedd sydd yn cyflwyno eu hunain yn sgil y rôl newydd hon?

"Dwi mor gyffrous fy mod i wedi cael y cyfle yma i ddatblygu'r gwasanaeth yma. Rwyf wedi treulio blynyddoedd lawer yn cefnogi'r Ymgyrch am welliannau yng ngofal pobl sydd â chanser y fron Eilaidd. Mae gen i gymaint o syniadau ar gyfer y gwasanaeth sydd wedi dod o gymryd rhan mewn grwpiau defnyddwyr gwasanaethau canser y fron a blynyddoedd lawer o ddarparu cymorth clinigol i fenywod a dynion sydd wedi bod yn byw gyda diagnosis canser y fron Eilaidd."

 

Mae Macmillan wedi sefydlu grŵp arbenigol ‘Gyda’nGilydd’ (‘Inthis2gether’). Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar-lein a wyneb-yn-wyneb. Mae hefyd yn gweithredu fel grŵp eiriol ar gyfer cleifion canser eilaidd y fron ar draws y de ddwyrain, y de orllewin a gogledd Cymru. Os hoffech chi wybod mwy, gallwch gysylltu â info@heart2hartsolutions.co.uk.

Os oes gennych chi gwestiynau am ganser y fron eilaidd, ewch i wefan Macmillan am ragor o wybodaeth.

Mae gan ein Cymuned Ar-lein Macmillan fforwm Canser y Fron Eilaidd hefyd. Mae hwn yn grŵp cymorth ar-lein i bobl sydd â chanser y fron eilaidd (canser y fron metastatig /canser datblygedig y fron) a'u hanwyliaid. Mae'n ofod i ymuno i gwrdd ag eraill a rhannu profiadau a chefnogaeth emosiynol.

 

28/04/2023