Mae Louise, o Bontypridd, wedi bod yn cael y brechlyn ffliw bob blwyddyn ers saith mlynedd. Fel cyn-ofalwr i'w mam ac athrawes gymwysedig sy'n gweithio mewn ysgolion lleol, mae hi'n deall pwysigrwydd amddiffyn pobl agored i niwed.
"Roeddwn i'n arfer cael fy brechu pan oeddwn i'n gofalu am fy mam. Nawr rwy'n ei wneud i amddiffyn y plant rwy'n gweithio gyda nhw – yn enwedig y rhai sydd ag awtistiaeth neu gyflyrau iechyd nad ydynt efallai yn gallu cael y brechlyn ffliw trwynol – a fy nheulu fy hun. Mae gen i gyflwr iechyd hefyd a gallwn fynd yn wael iawn gyda'r ffliw.
Mae brechiad rhag y ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn, a gallai atal wythnosau o salwch difrifol. Rhannodd Louise: "Rydw i wedi cael y brechiad ffliw ers saith mlynedd ac nid wyf erioed wedi cael unrhyw sgîl-effeithiau."
Yn ogystal â gweithio mewn ysgolion lleol, mae Louise yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd sy'n cynyddu'r risg o ledaenu germau. Mae'r plant y mae'n gweithio gyda nhw hefyd yn ymwneud â llawer o glybiau ar ôl ysgol a chwaraeon, sy'n golygu ei bod mewn cysylltiad â llawer o deuluoedd.
"Gall ffliw fod yn fygythiad i fywyd, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl. Dydych chi byth yn gwybod pwy rydych chi'n eistedd wrth ymyl na phwy maen nhw'n gofalu amdano gartref. Mae angen i bawb wneud eu rhan."
Roedd hi'n hawdd iawn cael y brechlyn ym Meddygfa Ashgrove ym Mhontypridd: "Cefais neges destun yn dweud eu bod nhw'n gwneud sesiynau galw heibio “Es i i mewn, tynnais fy nghot bant, eisteddais i lawr – a’r cyfan wedi gorffen cyn i mi sylweddoli hyd yn oed!
Dywedodd staff Meddygfa Ashgrove: Mae brechlyn ffliw blynyddol yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag dal a lledaenu’r ffliw Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod wedi colli eich gwahoddiad am frechlyn ffliw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch fferyllfa leol."
Bydd digwyddiad galw heibio ychwanegol i gael brechiad rhag y ffliw ym Meddygfa Ashgrove ar 17 Tachwedd rhwng 5yp a 7yp.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad ffliw, Ewch i'n tudalen gwefan Ffliw.
04/11/2025