Fel rhan o'r gwaith i alluogi ailosod to'r prif adeilad yn Ysbyty Tywysoges Cymru, bydd yr Uned Strôc a'r Gwasanaethau Strôc eraill sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn cael eu lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg o ddydd Iau 31 Hydref 2024.
Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn profi unrhyw un o symptomau strôc, dylech gael mynediad i'r Adran Achosion Brys (ED) fel arfer. Mae'r Unedau Brys ym mhob un o'n hysbytai (gan gynnwys Tywysoges Cymru) yn parhau i ddarparu'r driniaeth feddygol frys sydd ei hangen ar y rhai sy'n dioddef o strôc.
Os bydd cleifion angen gofal parhaus i gleifion mewnol am strôc, unwaith y byddant wedi'u sefydlogi, maent yn debygol o gael eu trosglwyddo i'r ward strôc yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Am fwy o wybodaeth am beth i'w wneud os ydych chi neu rywun annwyl yn profi symptomau strôc, ewch i: GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Strôc
30/10/2024