Mae newidiadau i lawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn caniatáu i rai cleifion sydd angen clun neu ben-glin newydd ddychwelyd adref ar yr un diwrnod â derbyn eu llawdriniaeth. Yn ei dro, mae gan hyn y potensial i dorri amseroedd aros yn ei hanner.
Yn ôl y llawfeddyg ymgynghorol y tu ôl i'r fenter Keshav Singhal, cyn belled â bod cleifion fel arall yn ffit ac yn dda mae llawdriniaethau dydd yn bosib trwy wneud rhai addasiadau bach i'r drefn maen nhw'n ei dderbyn.
Gallwch ddarllen y stori'n llawn fel ag y mae wedi ei chynnwys gan newyddion BBC Cymru heddiw: Mwy o lawdriniaethau un dydd er mwyn lleihau rhestrau aros? - BBC Cymru Fyw
10/02/2023