Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau brys i wasanaethau strôc yng Nghwm Taf Morgannwg

Mae newidiadau brys yn cael eu gwneud i wasanaethau strôc sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i gael mynediad at ofal a thriniaeth sy’n achub bywyd.

O'r wythnos sy'n dechrau 6 Ionawr, bydd staff a gwasanaethau arbenigol ar gyfer y rhai sydd angen triniaeth frys a gofal ar gyfer strôc, wedi'u lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg (YRGH) yn Llantrisant.

Mae’r symudiad yn cael ei wneud wrth i’r bwrdd iechyd reoli prinder difrifol o staff meddygol arbenigol sydd â’r hyfforddiant, y sgiliau a’r profiad i ofalu’n ddiogel am gleifion sy’n cael strôc.

Rydym yn cydnabod y bydd y newid angenrheidiol hwn yn peri pryder i rai. Fodd bynnag, rhaid inni wneud newidiadau lleol ar unwaith i’r ffordd y darperir gwasanaethau os ydym am gynnal gwasanaeth diogel a all barhau i achub bywydau a lleihau effeithiau dinistriol strôc i gynifer o gleifion â phosibl. Heb wneud y newidiadau hyn, ni fydd yn bosibl i’n staff barhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn i gleifion.

Ar ôl ymateb i’r her uniongyrchol gyda’r newid brys arfaethedig hwn, byddwn yn parhau i adolygu darpariaeth a chynaliadwyedd gofal strôc brys i gleifion o fewn ôl troed CTM a thu hwnt, ac yn parhau i hysbysu cleifion a rhanddeiliaid eraill.

Rydym am atgoffa pobl, pe baent hwy neu anwyliaid yn profi symptomau strôc, y dylent bob amser alw am ambiwlans yn y lle cyntaf. Os byddwch yn mynychu eich ysbyty lleol, bydd unrhyw un o’n hadrannau achosion brys yn gallu eich asesu a darparu triniaeth feddygol frys, os oes angen, i sefydlogi eich strôc.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma