Bydd y gwasanaeth Pelydr-X Meddygon Teulu yn Ysbyty Cwm Rhondda yn cau dros dro ar gyfer gwaith adnewyddu hanfodol o ddydd Iau 2 Ionawr tan Ebrill 2025.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd pob claf yn gallu cael mynediad at wasanaeth galw i mewn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9am a 4pm (ac eithrio gwyliau banc).
Bydd meddygon teulu yn rhoi manylion am y trefniadau gwasanaeth dros dro hyn i unrhyw glaf sydd angen ei atgyfeirio i'r gwasanaeth.
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ynghylch pryd y bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i Ysbyty Cwm Rhondda.
Diolch
20/12/2024