Lansiodd menter gofal iechyd awyr agored arloesol yn Nhreorci fis Gorffennaf eleni, gan gynnig cyfle unigryw i oedolion awtistig wella eu lles trwy therapi sy'n seiliedig ar natur.
Bydd y prosiect, a ddatblygwyd gan Wasanaethau Arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) mewn partneriaeth â'r fenter gymdeithasol Down to Earth (DTE), yn trawsnewid gardd therapi galwedigaethol segur yn Ysbyty George Thomas yn fan gwyrdd bywiog, therapiwtig.
Mae'r fenter wedi'i chynllunio i gefnogi unigolion sy'n cyrchu'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS). Mae’n cael ei chefnogir gan Ysgoloriaeth Arloesedd Elsie Wagg Sefydliad y Frenhines ar gyfer Nyrsio Cymunedol NGS, ac yn cael ei ariannu drwy'r Cynllun Gerddi Cenedlaethol, gyda chyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan gronfa Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth y Bartneriaeth Ranbarthol (RP NDIP).
Bydd y rhaglen yn cefnogi 12 o gleientiaid i ddechrau, gydag ail garfan o 12 wedi'i chynllunio yn dilyn cyllid ychwanegol gan Bartneriaeth Ranbarthol CTM.
Dywedodd Claire Norman, Uwch Nyrs, Gwasanaethau Arbenigol, sy'n arwain y prosiect: “Mae tystiolaeth glir bod gan natur fanteision i ar les unigolion. Roedd symud i Ysbyty George Thomas yn gyfle perffaith i ddefnyddio gardd sydd ar gael i gynnig cymorth arall.
Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i Nyrsio Cymunedol Sefydliad y Frenhines (QICN) am ddyfarnu'r ysgoloriaeth hon. Mae wedi cynnig cymaint mwy na dyfarniad ariannol; roedd yn cynnwys tri gweithdy deuddydd a chymorth misol parhaus gan gymheiriaid. Rydw i wedi dysgu cymaint am ehangu prosiectau, cynaliadwyedd o fewn gwella ansawdd, methodoleg gwella ansawdd, ac ysgrifennu academaidd i'w gyhoeddi.”
Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen pum sesiwn sy'n cynnwys:
Dywedodd Dr Amanda Young, Cyfarwyddwr Rhaglen Nyrsio QICN: “Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cyfranogwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect gardd.
“Mae Claire yn nyrs ysbrydoledig ac mae eisoes wedi sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf i gefnogi mwy o bobl i gael budd o’r rhaglen arddio, ond bydd y lleoliad hefyd yn cefnogi ymwelwyr â'r gwasanaeth, gan ddarparu man tawelu naturiol.
“Bydd Lucy, cyd-arweinydd y prosiect yn gweithio gyda Claire, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Ysbyty George Thomas. “
Bydd y sesiynau yn cael eu hwyluso gan DTE, y mae ei hanes 19 mlynedd yn cynnwys gweithio gyda chymunedau ar yr ymylon a chyflwyno rhaglenni iechyd ac addysg awyr agored arloesol.
Dywedodd Kate Denner, Arweinydd Ymchwil DTE: “Mae hyn yn ymwneud â mwy na garddio; mae'n ymwneud ag adeiladu hyder, cymuned, a lles trwy gysylltiad ystyrlon â natur.
“Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau ein prosiect cyntaf gyda BIPCTM a ffurfio partneriaeth sy'n rhoi mannau awyr agored wrth wraidd gofal iechyd ac addysg. Ynghyd â staff a chleifion, byddwn yn cyd-ddylunio ac yn cyd-greu mannau gwyrdd hygyrch sy'n cefnogi lles a dysgu.
Gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ochr yn ochr â byrddau iechyd, rydym wedi gweld y dystiolaeth am sut y gall amser ym myd natur drawsnewid iechyd meddwl, cryfhau lles corfforol, a chwarae rhan bwerus mewn adsefydlu ac adferiad.”
Bydd y prosiect yn defnyddio offeryn lles cynhwysol DTE, Graddfa Hwyliau a Phrofiad Cyfredol Emojis (ECMES), a ddatblygwyd gyda Phrifysgol Abertawe. Mae'r offeryn hwn wedi'i gynllunio i fesur gwelliannau mewn iechyd meddwl, gwytnwch, a chysylltiad cymunedol.
Bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau Blasu mewn Blasu Iechyd a Lles neu Gadwraeth yr Amgylchedd, gan helpu i feithrin sgiliau a hyder ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gan ystyried cynaliadwyedd. Bydd staff o IAS yn cymryd rhan o'r cychwyn cyntaf, gan ennill y sgiliau a'r hyder i barhau i gyflwyno sesiynau'n annibynnol. Mae cynlluniau hefyd i'w ehangu drwy gyfuno natur â therapïau sy'n seiliedig ar gelf.
“Rydym yn gobeithio y bydd hon yn fenter barhaus,” meddai Claire, arweinydd y prosiect. “Rydym eisoes yn archwilio ffyrdd o'i ehangu a chynnwys mwy o gleifion ar draws ein gwasanaethau arbenigol.”
Cyflwynwyd y prosiect hefyd yn Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru ar 15 Gorffennaf. Nod y rhwydwaith yw cryfhau'r cydweithrediad rhwng GIG Cymru a'r sector ymchwil, gan helpu i nodi a deall y blaenoriaethau ymchwil i Gymru o safbwyntiau rhanddeiliaid.
Dechreuodd y prosiect gardd les ar 31 Gorffennaf gyda'r grŵp cyntaf, oedd yn gam sylweddol ymlaen o ran sut y gall ein gwasanaethau gofal iechyd gefnogi unigolion yn greadigol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS) yn agor gerddi preifat eithriadol i'r cyhoedd er mwyn codi arian ar gyfer elusennau nyrsio ac iechyd. Mae'n ariannu Ysgoloriaethau Arloesi NGS Elsie Wagg i alluogi nyrsys cymunedol i wella iechyd pobl drwy ddefnyddio gerddi a garddio.
Mae Sefydliad Nyrsio Cymunedol y Frenhines yn cefnogi pob nyrs sy'n gweithio yn y gymuned yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, trwy ein rhaglenni arweinyddiaeth ac arloesi, a thrwy ddyfarnu teitl Nyrs y Frenhines.
28/08/2025