Y mis hwn byddwn yn hyrwyddo 'Mae'n Gwneud Synnwyr', bob blwyddyn, mae’r GIG yng Nghymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o anghenion 600,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda nam ar eu synhwyrau, megis nam ar y clyw a/neu'r golwg.
Mae gan yr Ymgyrch negeseuon allweddol ar gyfer cleifion â nam ar eu synhwyrau, a’u hatgoffa am eu hawl, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i gael cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch pa bryd bynnag y mae angen gofal iechyd arnyn nhw. Mae cleifion a’r cyhoedd yn cael eu hannog i:
DWEUD wrth feddygon, nyrsys, parafeddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill am y ffordd y maen nhw am i staff gyfathrebu â nhw;
GOFYN i gael gwybodaeth mewn fformat hygyrch gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), print bras, sain, yn electronig neu Braille;
RHANNU eu pryderon gyda’u meddygfa neu ysbyty os nad yw’r wybodaeth y maen nhw’n ei derbyn ar gael iddyn nhw.
03/11/2023