Wrth i Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint barhau, rydym yn edrych yn ôl ar lwyddiant ein Peilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint – menter a helpodd i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar ac sydd bellach wedi’i chydnabod yn genedlaethol am ragoriaeth mewn gofal cleifion.
Stori Phil: Mae profiad Phil yn dangos effaith canfod cynnar sy'n newid bywyd. Arweiniodd ei archwiliad iechyd ysgyfaint at driniaeth amserol a chanlyniadau gwell. Darllenwch y stori lawn.
Gwasanaeth sydd wedi ennill gwobrau: Yn ddiweddar, enillodd y cynllun peilot Wobr Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion Coleg Brenhinol y Meddygon, gan dynnu sylw at ymroddiad ein timau a'n partneriaid.
Partneriaethau: Gwnaed y llwyddiant hwn yn bosibl trwy gydweithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau'r GIG, y trydydd sector a phartneriaid yn y diwydiant. Gweler y manylion llawn isod.
Beth sy’n nesaf?
Mae'r cynllun peilot bellach wedi dod i ben, ac mae'r hyn a ddysgwyd o hyn wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r penderfyniad i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru. Darllenwch Ddatganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.
Partneriaethau
Cefnogwyd Cynllun Peilot Gweithredol Archwiliad Iechyd yr Ysgyfaint Cymru gan grant ariannol gan Roche Products Ltd, grant gan MSD (Merck Sharp & Dohme (UK) Limited), Cytundeb Noddi gan Novartis Pharmaceuticals UK Limited, Cytundeb Partneriaeth gyda Moondance Cancer Initiative a chyllid gan Tenovus Cancer Care yn dilyn rhodd flaenorol gan Bristol Myers Squibb Pharmaceuticals Limited.
21/11/25