Roedd ein tîm iechyd meddwl i bobl hŷn o Glinig Angelton ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal bore coffi ar lein yn ddiweddar, i ddod â staff yr uned a theuluoedd yn y gwasanaeth ynghyd.
Roedd teuluoedd wedi cael y cyfle i drafod heriau’r pandemig, effaith cyfyngiadau ar ymweliadau i bobl gyda Dementia, a’r newidiadau nad oedden nhw’n gallu bod yn rhan ohonyn nhw oherwydd y cyfnod clo a COVID.
Dywedodd Sophie Bassett, Uwch-nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn, “Roedd y sesiynau wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi bod staff yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â theuluoedd, a’u bod yn sensitif ac yn ofalgar bob amser. Dywedodd un aelod o deulu a ddaeth i’r sesiwn bod y tîm yn Angelton wedi rhoi cymaint o gysur yn ystod yr adegau anodd hyn a’u bod yn ymddiried yn y tîm yn gyfan gwbl. Roedd hyn wedi codi calon y tîm yn fawr.
“Yn dilyn y cyfarfod, byddwn ni’n creu ystafell ymweld fel bod lle preifat, cyfforddus ac arbennig lle gall pobl dreulio amser gyda’r teulu. Byddwn ni hefyd yn rhoi mwy o gymorth o ran cynllunio i ryddhau cleifion a gwneud penderfyniadau.
Oherwydd llwyddiant mawr y digwyddiad, bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal bob mis bellach.
Dyma ddywedodd un aelod o deulu: “Diolch yn fawr iawn i bawb am drefnu’r cyfle hwn. Roedd yn sesiwn gwerthfawr yr oedd pawb wedi ei fwynhau. Mae gwaith caled ac ymroddiad chi a’ch tîm yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, yn enwedig ar yr adegau anodd hyn.
Roedd y tîm wedi cwblhau Adduned Dementia yn ddiweddar hefyd, sydd i’w gweld ar safle Angleton.
Dyma’r Adduned gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn Pen-y-bont ar Ogwr