Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyntaf yng Nghymru i gynnig triniaeth newydd ar gyfer Clefyd Parkinson's

Dr James Bolt, ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn anhwylderau symud ym BIP Cwm Taf Morgannwg, yw'r meddyg cyntaf yng Nghymru i gynnig Produodopa sy'n feddyginiaeth i helpu i drin cleifion â chlefyd Parkinson datblygedig.

Mae Clefyd Parkinson's yn glefyd niwrolegol cynyddol, sy'n cynnwys dirywiad mewn lefelau dopamin. Mae dopamin yn cael ei gynhyrchu yn yr ymennydd yn bennaf ac mae'n helpu gyda symud, cof, hwyliau a rheolaeth swyddogaethau organau fel y stumog. Mae gan gleifion â chlefyd Parkinson lefelau is o Ddopamin ac maen nhw’n cyflwyno symptomau gan gynnwys cryndod, cerdded oediog, anhyblygrwydd yn eich breichiau a choesau, a mynegiant wyneb teg i fwgwd. Fodd bynnag, efallai eu bod wedi cael llawer o nodweddion eraill o'r afiechyd cyn iddyn nhw gyflwyno'r symptomau hyn (fel aflonyddwch cwsg neu broblemau gyda'u coluddion).

Yn draddodiadol, mae clefyd Parkinson wedi cael ei drin â dopamin trwy’r geg. Fodd bynnag, mae'n rhaid cynyddu'r dos gan fod eu corff yn cynhyrchu llai o dopamin. Gall dosau mawr o ddopamin sy’n cael eu rhoi trwy’r geg achosi problemau gyda symudiadau eraill (a elwir yn dyscinesia) a all fod yn anodd i'r claf. Wrth i ni heneiddio mae ein stumog yn arafu, ond mae hyn yn fwy amlwg ymhlith y rhai â Chlefyd Parkinson. Bydd y tabledi sy'n cynnwys dopamin yn mynd trwy'r stumog, ond yn llawer mwy anghyson. Gall y claf symud yn well ar un diwrnod, ond yn llai ar ddiwrnod arall. Rydyn ni’n gwybod o astudiaethau mai dim ond tua 10% o'r dopamin yn cyrraedd yr ymennydd. Mae hefyd yn bwysig bod y feddyginiaeth trwy’r geg yn cael ei rhoi ar amser a all fod yn anodd pan fydd yn rhaid i gleifion ei chymryd sawl gwaith y dydd. Felly, mae'n bwysig edrych am ffyrdd eraill o helpu i drin eu symptomau.

Mae Produodopa yn feddyginiaeth ar gyfer Clefyd Parkinson datblygedig sy'n cael ei roi trwy nodwydd o dan y croen gan ddefnyddio pwmp arbennig. Mae'r pwmp yn dosbarthu ychydig bach o'r feddyginiaeth bob awr sy'n cael ei amsugno'n raddol i'r llif gwaed. Mae'r pwmp yn hawdd i'w raglennu a'i ddefnyddio. Mae'n gweithio 24 awr y dydd, sy'n golygu bod gan y claf lefel fwy cyson o dopamin yn ei gorff trwy gydol y dydd a'r nos.

Mae Produodopa yn symleiddio triniaeth i gleifion â chlefyd Parkinson datblygedig. Mae'n helpu nid yn unig eu symptomau echddygol (cryndod, arafwch, anhyblygrwydd a dyscinesia), ond mae hefyd wedi bod yn effeithiol wrth wella eu symptomau sydd ddim yn echddygol (cwsg; gweithrediad y coluddyn, hwyliau ac ati). Yn gyffredinol. Mae wedi cael ei ddangos mewn treialon cychwynnol i wella ansawdd bywyd cleifion.

Mae Dr Bolt wedi’i leoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac mae wedi bod yn gweithio gyda Mr Kelland, claf 66 oed sydd wedi profi cryndodau ac wedi bod ar feddyginiaeth ers pan oedd yn 18 oed. Ers i Mr Kelland ddechrau defnyddio'r driniaeth Produodopa, mae wedi bod yn llai anhyblyg, wedi ymlacio mwy gyda chwsg, ac mae ei gryndod yn llai amlwg.

Dywedodd Dr Bolt: “Rydym wedi gwybod ers amser maith y bydd y feddyginiaeth trwy’r geg i gleifion â chlefyd Parkinson yn raddol yn dod yn llai effeithiol yn y pen draw. Rydym wedi cael nifer o driniaethau sy'n cael eu darparu gan bwmp gwisgadwy. Fodd bynnag, does dim un ohonyn nhw wedi’u trwyddedu i roi meddyginiaeth dros ddiwrnod cyfan. Efallai y bydd rhai cleifion yn penderfynu cael technegau mwy ymledol, er nad yw hyn yn dewis pawb. Mae Produodopa yn bwmp ysgafn, gwisgadwy sy'n cynnig opsiwn pellach i gleifion addas â chlefyd Parkinson datblygedig. Mae

canlyniadau treialon ledled y byd wedi bod yn gobeithiol. Rydw i wrth fy modd mai ni yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddarparu’r therapi hwn i Mr Kelland. Rydw i hefyd wrth fy modd gyda’i ymateb i’r driniaeth.”

Dywedodd Mr Kelland: “Ers bod ar Produodopa, rydw i’n ffeindio fy mod i’n cysgu’n llawer gwell, ac mae gen i lawer mwy o egni. Mae gen i fwy o frwdfrydedd yn gyffredinol. Rydw i’n fwynhau bywyd yn fwy a dydw i ddim wedi teimlo fel hyn ers blynyddoedd. Mae'n fonws ychwanegol peidio â gorfod 'gwylio'r cloc' er mwyn gorfod cymryd meddyginiaeth bum gwaith y dydd. Roeddwn i ar 30 o dabledi'r dydd ac fe wnes i chwistrellu Dacepton (Apo-morffin) hyd at dair gwaith y dydd. Nawr rydw i’n cymryd 4 tabled y dydd, a dim un ohonyn nhw ar gyfer fy Nghlefyd Parkinson a does dim angen i mi chwistrellu fy hun mwyach. Mae'r ffaith fy mod i’n cysgu mor dda wedi gwella fy mywyd yn fawr. Mae’r pwmp yn hawdd i’w ddefnyddio, ac rydw i wrth fy modd gyda’r newidiadau y mae wedi’u gwneud i fy mywyd.”

 

26/06/2024