Yr wythnos hon rydym yn dathlu’r cynlluniau sydd gennym yn CTM sy’n cynnig cyfleoedd i’r bobl ifanc yn ein cymunedau.
Ym mis Ionawr eleni parhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg â'i bartneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite a Phrosiect DFN SEARCH i gyflwyno'r rhaglen Ymgysylltu i Newid. Mae’r Prosiect DFN SEARCH Ymgysylltu i Newid yn rhaglen interniaeth sy'n cefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i symud i gyflogaeth â thâl. Yng Nghymru, mae Prosiect DFN SEARCH yn cael ei ariannu fel rhan o brosiect ehangach Ymgysylltu i Newid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth i ddod o hyd i waith cynaliadwy drwy ddysgu a chael profiadau amser real yn y gwaith.
Ym mis Ionawr 2022, dechreuodd pedwar intern eu lleoliad yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae’r interniaid yn treulio amser mewn hyd at dri lleoliad deg wythnos sy'n cyfateb i'w hanghenion yn gweithio mewn modd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae pob intern yn derbyn hyfforddiant un i un ac mae ganddo fentor penodol yn ogystal â hyfforddiant sefydlu ar y safle a hyfforddiant iechyd a diogelwch. Maen nhw hefyd yn derbyn hyfforddiant swydd penodol a myfyrio ar eu dysgu.
Yn ôl Kate Riley o ELITE: "Mae prosiectau fel Cysylltu i Newid yn hynod bwysig o ran galluogi nifer o bartneriaid i ddod at ei gilydd a defnyddio eu sgiliau a'u harbenigedd i helpu pobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth i gael gwaith cyflogedig cynaliadwy.
"Ar ôl i'w lleoliad gael ei gwblhau ac maen nhw'n dysgu'r holl sgiliau angenrheidiol, yna mae’r interniaid yn gallu gwneud cais am swyddi o fewn y bwrdd iechyd".
Yn ôl Heather Porch o dîm Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Cwm Taf Morgannwg: "Roeddem yn falch iawn o groesawu interniaid i'r cynllun Prosiect SEARCH i weithio gyda ni yng Ngwm Taf Morgannwg, maen nhw i gyd yn gwneud yn dda iawn ac mae eu sgiliau gwaith yn gwella bob dydd sy'n wirioneddol ysbrydoledig i'w gweld. Nid yw hyn wedi bod yn bosibl heb y gwaith gwych gan yr holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r prosiect a'r angerdd sydd gan yr interniaid am weithio yn y GIG.
Ewch i www.engagetochange.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect DFN SEARCH Gysylltu i Newid.